Telyn Bywyd/Nos-ganeuon
| ← Telyn Anian | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Blodau'r Gwaenydd → |

Telyn Bywyd.
Nos Ganeuon.
LLEDAI'R hwyrnos ei mantelli
Dros y dolydd cain a'r llwyni,
Pan, o'r wig gerllaw fy mwthyn
Clywais fiwsig pêr yn esgyn,—
Llais aderyn mwyn ei odlau
A ddisgynai ar fy nghlustiau.
Clyw, ganiedydd, dwed yr achos
Pam y ceni yn y ddunos?
Nid yw'r wawr a'i bysedd rhuddain
Wedi agor dorau'r dwyrain:
Y mae Anian oll yn huno,
Beth a'th geidw di yn effro?
Ateb im, aderyn hynod,
Onid digon y diwrnod
I ti chwareu ar dy delyn?
Gorphwys bellach ar y brigyn:
Beth sy'n chwyddo'th fynwes fechan
Heno i ganu wrth dy hunan?
Ha, ai newydd ddeffro'r ydwyd
O ryw felus, felus freuddwyd,
Ac yn methu, methu oedi
Dim yn hwy heb ei fynegi?
Ai i gôl yr hwyr awelon,
Y tywellti dy gyfrinion?
A osodwyd di'n wyliedydd
I hysbysu gwawr boreuddydd?
Ai tydi sydd yn gofalu
Am ddihuno cor y llwyni?
Cynar yw ymbwylla, aros,
Nid yw toriad dydd yn agos.
Tybed, gantor, fod gofalon.
Yn ymdyrru gylch dy galon?
A all poen ac adfyd estyn?
Cysgod du i fyd aderyn?
Ai rhyw hiraeth lleddf neu siomiant
Geidw gwsg oddiwrth dy amrant?
Tad y seraph, Lluniwr angel,
Roes i ti dy felus ddwsmel:
Ion yw ffynon pur gerddoriaeth
Drwy y nef a'r cread, helaeth,
Byth ni edy neb o'i deulu
Mewn un nos heb fodd i ganu.