Telyn Bywyd/Noswyl y Cenhadwr
Gwedd
| ← Bethlehem | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Cydgan yr Ysgol Sul → |
Noswyl y Cenhadwr.
MELUS yw'r cof am hen gyfrinachau
A'r aml gynlluniau a luniem yn nghyd,
Caled fu'r daith dros fryn anhawsderau,
A deifiol oedd siomiant i'r fron lawer pryd:
Fe gliriodd y nen,—a thithau a lonwyd,—
Gwregysaist dy hun i ymdrech deg, faith,
Llafuriaist fel gwron, ond ebrwydd y'th alwyd,
I noswyl y nef, ac i derfyn dy daith!