Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Rhosyn y Gwrych

Oddi ar Wicidestun
Haf-nos Oleu Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Nawn yn Mis Mehefin

Rhosyn y Gwrych.

O ROSYN y gwrych,
Mor hardd yw dy ddrych,
Dan wenau caredig yr hafddydd:
Ar lwybrau y glyn
Yn goch ac yn wyn,
Wyt anwyl i galon awenydd.

Rhosynau yr ardd,
Ynt ddillyn a hardd,
A'u henwau mewn bri ac anrhydedd:
Ond cyfuwch ei werth
Yw rhosyn y berth,
Er treulio ei oes mewn dinodedd.


Ar foreu o haf
Eu gwenau a gaf,
Mor swynol ar ymyl y llwybrau:
A'r awel a ddaw
'Rol cawod o wlaw
Eneinir a'i hyfryd bêr-sawrau.

A phan ddel yr awr
I'r haul fynd i lawr,
A phan yr ymdaena'r cysgodau,—
Daw adar y llwyn
I arllwys yn fwyn
Eu hwyrgan yn ymyl y blodau.

O rosyn y gwrych,
Mor hardd yw dy ddrych,
Tra'n gwrido mewn symledd di-ofal,
Dy liw a dy lun
A dystia fod Un
Yn gwylio dros rosyn yr anial.

Hardd rosyn y berth,
Pa geinder mor ferth?
Yn d'ymyl yr hoffem gael aros:
Mae'r Dwyfol o hyd
Drwy oesau y byd,
Yn nghanol y Berth yn ymddangos:


Nodiadau

[golygu]