Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Sabbothau Bywyd

Oddi ar Wicidestun
Plant y Dydd Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Y Porthladdoedd Prydferth

Sabbothau Bywyd.[1]
(Henry Vaughan).

DELWEDDAU disglaer ydynt
O'r nef-orphwysfa wir,
A grisiau aur i esgyn
I fryniau'r sanctaidd dir:
Llusernau claer i'n harwain
Drwy dywell nos y byd,
Ac yn y maith anialwch—
Cysgodion melus, clyd:
Mynyddoedd y perlysiau,
Lle crwydra engyl hedd,
Pelydrau o ogoniant
Drwy gymyl du eu gwedd;
Gorsafoedd ar ein gyrfa,
Lle ceir y manna cudd,
Allanol byrth Paradwys—
Cynteddau gwlad y dydd'


Nodiadau

[golygu]