Telyn Bywyd/Sancteiddio'r Groes
Gwedd
← Gostyngeiddrwydd | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Hwyrgan ar y Mor → |
Sancteiddio'r Groes.
(Hemans)
DAD! yr Hwn pan "ddaeth yr awr"
Yn Gethsemane draw
Anfonaist nerth i'r Iesu mawr—
Moes im' dy law.
Er mwyn ei ing, a'i waedlyd gur,
Llareiddia'n awr fy loes;
Ond os rhaid dioddef ddyddiau hir—
Sancteiddia'r Groes!
Tydi! yr Hwn pan ddaeth yr awr"—
Awr talu dyled dyn,
A blygaist i'r Ewyllys fawr—
Gan roi dy Hun!
O ddwyfol ddioddefydd, boed
Dy Ysbryd, yn mhob loes,
I'm nerthu i ddilyn ôl dy droed—
Sancteiddia'r Groes!