Telyn Bywyd/Y Ddwy Ystafell
| ← Tannau Hiraeth | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Emyn Adgof → |
Y Ddwy Ystafell.
UN hwyr, gogwyddais at y ddôr,
Sy'n cau ar gudd-ystafell gofid,
A chlywais swn, fel ymson tonau'r môr,
Pan fo ystormydd yn eu hymlid
Cwynfanus gri, fel eiddo'r awel sydd
Yn crwydro drwy y llwyn a'r nos auafol
Esgynai fry, ac ocheneidiau prudd,
A lanwent yr ystafell oer, unigol.
Deffroais fel o freuddwyd llawn o swyn,
Ac ar fy nghlyw ymdorrai miwsig mwyn,
Llawenydd oedd, yn ei ystafell gain,
Yn pyncio mirain gân, a pheraidd sain.
Hunasai gofid llonder ysgafn wedd
Anadlai ar fy enaid hoen a hedd
Yn lle'r ochenaid ddofn, a'r isel gri,
Acenion hyfryd lanwai'm dwyfron i;
Cerddoriaeth mebyd, gollais ar fy hynt,
A'r dannau llonder chwyddai megis gynt,
Cryfhâ y gerdd cyflyma'r ddawns ymlaen,
A'm calon gryn dan ddylanwadau'r gân.
O Lawenydd, er mor anwyl,
A llesmeiriol ydwyt ti,
Paid, O paid a deffro'r gofid,
Huna yn fy nghalon i.
Huno mae, a huno'n ysgafn,
Isel, weithian, fo dy lef,
Nis gall byd ei roi i gysgu,
Awel wan a'i deffry ef.
Huno mae, a ffol yw meddwl
Iddo ado'r fynwes hon,
Er yn ddistaw, erys gofid,
Yn ei gafell dan fy mron.
Huno mae: ond effro, effro,
Ydyw Llonder, siriol wedd,
Gyda'i gynghan bêr, nefolaidd,
Gyda'i salm, a'i felus hedd.
O Lawenydd! bydd ofalus,
Mwyn ac isel boed dy lef,
Yn dy ymyl huna gofid,
Paid, O paid a'i ddeffro ef!