Telyn Bywyd/Y Gadair Wag
Gwedd
| ← Emyn Adgof | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Garreg Wen → |
Y Gadair Wag.
FEL y daw y mwyn awelon
I ymdonni dros y ddôl,
Felly'n fynych daw adgofion-
Hiraeth-donnau ar ei hol:
Tyner ydoedd fel yr hafddydd,
A thryloew fel y don,
Pan y byddo ser yr hwyrddydd
Yn pelydru ar ei bron.
Pur a syml oedd ei bywyd,
Tawel fel y wybren glir,
Mawr ei gofal, cyson, diwyd,
A diragrith fel y gwir:
Distaw yr ehedodd ymaith
I'r Baradwys deg, ddinam,
Melus fo ei choffadwriaeth-
Cadair wag fydd cadair mam!