Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Y Galon Bur

Oddi ar Wicidestun
Y Garreg Wen Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Huned yn Dawel

Y Galon Bur.
(Un o ddarluniau Syr Noel Paton).

WYT ti'n cofio'r darlun hwnw,
Yr edrychem arno'n syn,
Pan y gwelem yn y cyfnos,
Yr olygfa ar y Llyn?
Llyn Peryglon oedd ei enw,
Tywyll oedd ei donnau prudd,
A diflanu yn y pellder
Wnai pelydrau ola'r dydd.

Wyt ti'n cofio'r bâd rhyfeddol
Yn ymsymud dros y don,
Wyt ti'n cofio gwyneb gwelw,
Y rhyfelwr dewr ei fron?
Yno gyda'i farch blinedig
Safai yn ei harddwisg ddur,
Ar ei ymdaith at y trysor,
Nas gwelir ond gan galon bur.

Wyt ti'n cofio'r ffurfiau hudol,
A ddelweddid yn y lli?
Pleser nwyfus, gyfareddol,—
Anobaith—yn ei hymyl hi!
Suo-ganant, ond eu hymgais
Ydyw temtio rhinwedd gwyn,
O ryfelwr! gwylia arnat,
Neu dy feddrod fydd y Llyn.


Wyt ti'n cofio'r angel-rwyfwr
A eisteddai yn y bâd,
Mantell wenliw, gwallt modrwyog,
Nefol oedd ei wyneb mad:
Goleu claer ei wedd a'i wisgoedd
Chwareuai ar yr arfau dur,
Braidd na chlywem ef yn dwedyd—
Gwyn ei fyd y galon bur!"


Nodiadau

[golygu]