Telyn Bywyd/Y Garreg Wen
| ← Y Gadair Wag | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Galon Bur → |
Y Garreg Wen.
MI godais garreg wen,
Un dydd, ar lan y lli,
Yn mysg y cerrig ar y traeth
'Doedd un mor wen a hi:
'Roedd yno lawer maen
Yn hen a llwyd ei wawr,
Ond gwynach ai y garreg wen
Ar ol y stormydd mawr.
Mi gwrddais gywir ffrynd,
Un dydd, ar draeth fy oes,
A dal yn ffyddlon imi wnaeth
Dan lawer awel groes:
Pan ruai'r gauaf du,
A phan dywyllai'r nen,
Arhosodd hon, yn bur ei bron,-
'Run fath a'r garreg wen.
'Rwy'n caru'r garreg wen
Fel trysor hardd ei wedd,
A'r olwg arni lawer awr
A ddyry imi hedd:
Mi gofia'r hafaidd ddydd
Dan lesni dwfn y nen,
Pan welais hi ar lan y lli,
Fy hawddgar garreg wen.
Yn nrych y garreg wen
Mi welaf ddarlun clir,
O'r un a fu'n gydymaith gu
Ar hyd y blwyddi hir:
Arhosed felly imi mwy,
Nes delo'r daith i ben,
A chwrdded fi, tu draw i'r lli,
Yn ngwlad yr Orsedd Wen.