Telyn Bywyd/Y Glöyn a'r Hedydd
Gwedd
| ← Hiraeth am yr Haf | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Fedwen ar y Mynydd → |
Y Gloyn a'r Hedydd.
SUA'R chwaon nwyfus, gwisgi,
Fiwsig haf ar dannau'r perthi,
O, mae sawr rhosynau gwylltion
Yn gwneyd Eden o'r awelon.
O'i ymguddfan yn y gwaenydd,
Esgyn beunydd wna'r ehedydd,
Esgyn, canu melus gerddi,
Nes ymgolli yn y glesni.
Anwel yw y cerddor glan,
Ond nis gellir cuddio'r gân,
Anhraethadwy beraidd yw
Ar ei hynt o nefoedd Duw.
Tra yn gwrando'r alaw burlan
Glöyn byw ddaw ar ei hedfan,
Yn ei fantell amryliwiol,
Ar ei aden fraith, symudol.
Blentyn haf, oes myfyrdodau
Iddo'n dod o blith y blodau?
Gain bererin! hyfryd yw
Annibyniaeth gloyn byw!