Telyn Bywyd/Y Medelwyr
Gwedd
| ← Y Blodau yn y Lli | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Hwyrddydd Haf → |
Y Medelwyr.
MAE anian yn dihuno
O gôl y ddunos brudd,
A'r haul yn araf hwylio
Drwy ddorau aur y dydd,
Ac ar y waen ymdonna'r ŷd
O flaen yr awel rydd.
Fedelwyr llon! prysurwn
Hyd wlithog lethrau'r bryn,
Pob un a'i gryman yn ei law
I fedi'r gwenith gwyn:
Tra sua'n gloewon arfau
Drwy'r felen gorsen ŷd,
Cyd-lawenhawn wrth dorri'r grawn
Sy'n torri angen byd!
Ar ael y cynhauaf canfyddwn yn rhwydd
Ol bysedd haelioni'n coroni y flwydd;
Pryd hau, a phryd medi, ordeiniwyd gan Dduw,
Ei enw a folwn, ac iddo gwnawn fyw.