Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Y Porthladdoedd Prydferth

Oddi ar Wicidestun
Sabbothau Bywyd Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Hoff Feibl ein Gwlad

Y Porthladdoedd Prydferth.

Y PRYDFERTH Borthladdoedd sy draw:
Ceir yno angorfa gysurus,
Un storom fygythiol ni ddaw
I'n blino, na gwyntoedd ystormus.

Yr awel bersawrus, a chwyth
Dros fryniau gwynfäol y nefoedd;
A'r cefnfor sy dawel dros byth,
O amgylch y prydferth borthladdoedd.

Os pell yw y fordaith a blin,
Os rhaid in' wynebu tymhestloedd;
Angorwn mewn byth-hafaidd hin,
Cyn hir yn y Prydferth Borthladdoedd.


Nodiadau

[golygu]