Telyn Bywyd/Y Tair Gardd
| ← Breuddwyd Paradwys | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Bedd yr Iesu → |
Y Tair Gardd.
I.
DRAW, draw yn mhell ar fore cain,
A'r cread oll yn ieuanc ac yn hardd,
Heb gysgod gwae, a'r blodau heb y drain,—
Yr Arglwydd Ior a blannodd ardd.
Eden ddedwydd! Wynfa burlan!
Cartref diniweidrwydd dyn:
Lle murmurai ffrydiau gloewon,
Lle sibrydai yr awelon
Gyfrinachau Duw ei hun.
"Yn Eden,"—cofir hyny byth,―
(Er iddi hir ddiflannu),
"Bendithion gollwyd rif y gwlith,"—
Ond aros wna er hyny,—
Aros drwy yr oesau i gyd,
Er blinderau anial fyd,
Aros byth mae'r adgof hardd,—
Yr Arglwydd Ior a blannodd ardd.
II.
Daeth y nos dros frig Olewydd,
Nos bradychu'r Bywyd pur,
Pan yn nwysder Gethsemane
Plygai'r Iesu dan ei gur.
Ond gobaith o'r dyfnder a dardd,
Ac anthem o'r gofid a gaed,
"Wrth gofio'i ruddfanau'n yr ardd,
A'i chwys fel defnynau o waed":
Wynebodd y loes yn ddigryn,
A nos y bradychu o'i fodd,—
"Pa dafod all dewi am hyn,
Pa galon mor galed na thôdd."
III.
Y bore ddaeth,—gwawr wen y trydydd dydd,
A dyma iaith y nef-genhadon hardd,
Yr Arglwydd a gyfododd—daeth yn rhydd,
A gwag yw'r bedd,—beddrodd yn yr ardd."
O newydd fedd yn ymyl Calfari!
O hono cododd Bywyd dynolryw:
"Enillodd hwn yn ol "yn ol i ni,
Mae'r Hwn fu farw drosom eto'n fyw.
Mewn byd heb gysgod bedd,
Y Wynfa bur, ddi—loes,
Bydd côf am drydydd dydd a gardd—
Yr ardd gerllaw y Groes!