Telyn Bywyd/Yr Awel Leddf
Gwedd
| ← Yr Ymfudwr | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Beddrod Mam → |
Yr Awel Leddf.
CRYNU yn yr awel leddf
Wna'r ddeilen welw, grin,
Y gauaf ddaeth â breichiau noeth,
A'i oer dymhestlog, hin:
Y blodau wenent ar y fron,
Ynt heddyw'n wyw a phrudd,
A chrefant am i wanwyn ddod
I'w gollwng hwy yn rhydd;
Ni chlywir braidd aderyn mwyn
Yn trydar rhwng y dail,
Ymlapio mewn cymylau trwch
A wna y dydd a'r haul.
Cofio 'rwyf am danat, ffrynd,
Drwy y nosweithiau hir,
A chofio am y gwanwyn gwyrdd
A'r nen yn las a chlir:
Ond pan ddel haf, a'i dywydd braf,
A'i wleddoedd chweg, di-ri,
Dyfnha fy hiraeth am na chaf
Dy gwmni serchog di:
Mewn beddrod pell, gorphwyso'r wyt.
Dan fantell wen yr iâ,
Ond disgwyl 'rwyf cael eto gwrdd
Yn ngwlad tragwyddol ha.