Telyn Bywyd (testun cyfansawdd)
| ← | Telyn Bywyd (testun cyfansawdd) gan Robert David Rowland (Anthropos) |
At y Darllenydd → |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Telyn Bywyd |


TELYN BYWYD:
- CANEUON ANTHROPOS.
TELYN ANIAN.
TELYN ADGOF.
TELYN FY NGWLAD.
TELYN Y CYSEGR.

AT Y DARLLENYDD.
YN ystod y blynyddau a fu, yr wyf wedi anturio cynyg dau neu dri o lyfrynau bychain i sylw fy nghenedl a'm gwlad. Cawsant dderbyniad caredig, gan y wasg, a chan y cyhoedd yn gyffredinol. Nid wyf heb wybod am eu diffygion; ond y mae'n dda genyf ddeall ddarfod iddynt fod yn gymhorth i ddwyn "Awel a Heulwen" i ambell feddwl, a bod aml i ddarllenydd o dir neillduaeth wedi eu cael yn fantais i anghofio ei amgylchoedd, ac i dreulio "Oriau," fel yn nyddiau mebyd, yn y "Wlad."
Y tro hwn, yr wyf yn cyflwyno iddynt lyfr arall, mewn ffurf wahanol. Llyfr o ganeuon ydyw. Nid oes awdl na phryddest, cywydd nac englyn, o'i fewn—dim ond caneuon. Ac nid oes yr un o honynt yn gynyrch "buddugol," neu yn "gân arobryn." Ni fuont mewn unrhyw eisteddfod na chyfarfod llenyddol; oherwydd paham ni enillasant gadair na choron, tlŵs aur neu fathodyn arian. Cawsant eu bod—hwyrach y buasai'n burion iddynt beidio bod o gwbl—ond y mae'n rhy ddiweddar i atal yr aflwydd hwnnw,—cawsant eu bod, nid ar orchymyn na chymhelliad allanol, ond fel mynegiad i deimladau personol fu yn croni yn fy mynwes ar wahanol adegau yn fy mywyd.
Byddai yn rhyfyg ynof i ddweyd nemawr am fy ymyriad a barddoniaeth; ond nid wyf yn cofio adeg pan nad oeddwn yn hoffi cân, ac y mae talm o amser weithian, er pan geisiais odli llinellau ar destynau o fewn fy nghyrhaedd. Ac wrth fwrw golwg dros y caneuon hyn y mae llawer golygfa, llawer ymsyniad llon a lleddf yn adgyfodi ger fy mron. Bid sicr, nid yw hyn yn meddu unrhyw ddyddordeb na phwysigrwydd i neb arall o dan yr haul; ond yr wyf yn enwi y peth, am mai rhywbeth o'r fath a fu'n achlysur i alw y caneuon hyn i fod. Y mae gan bob un ryw fymryn o hanes personol. Golygfa mewn natur: rhyw gyffyrddiad damweiniol,—os damweiniol, hefyd, yn cyffroi tannau y galon, a minnau, ar y pryd, yn ceisio benthyca iaith ac ymadrodd i gadw y drafodaeth rhag mynd ar goll.
Bum yn petruso gryn lawer yn nghylch y modd goreu i gyfleu y caneuon hyn yn y llyfr. A oedd rhyw drefn a dosbarth yn perthynt iddynt? A ellid canfod rhyw unoliaeth yn mysg y pentwr? Nid oeddwn yn gallu dygymod a'r syniad o argraffu cyfres o ganeuon hollol amherthynasol.
Wedi meddwl goreu y gallwn ar y mater, tybiais ddarfod i mi fod yn gwrando pedair telyn yn ystod fy oes. Telyn Anian—dyna un. Clywais ei halawon hi yn Nyffryn Edeyrnion, ar lannau llyn Tegid, yn nghanol aruthredd yr Eryri, ac mewn llawer cwm a dol, yn ystod fy mhererindod. Telyn Adgof oedd y llall. Y mae seiniau honno wedi bod yn disgyn yn fynych ar fy nghlust, yn enwedig yn y blynyddau diweddaf. Yr oedd ei nodau yn lleddf, lawer pryd, ond yr oeddynt yn felus, yn fwyn. Llonyddwyd fy ysbryd, lawer nos Sabboth yn y wlad, pan fyddai y gwynt yn galarnadu yn y coed, gan delyn adgof. Ac wrth wrando, yr oedd y meddwl yn ceisio dehongli yr iaith. A lwyddais i letya angylion, ac i ddal rhai o ysbrydion y gerdd? Nis gwn. Telyn fy Ngwlad, oedd y drydedd. Hoffwn wrando hon. Dan gyfaredd ei nodau hi, gwelais arwyr y dyddiau gynt yn trefnu eu byddinoedd: clywais gri rhyfeloedd, ac alawon hedd. Gwelais Gymru'n deffro, yn ymysgwyd o'r llwch, ac yn cerdded i'r dyfodol dan faner rhyddid, gwybodaeth, a moes. Y mae hon yn un o delynau mawr barddoniaeth Cymru, a phrif-feirdd yr oesau wedi bod yn dirgorynnu ei thannau godidog. Ond dichon y caniateir i feirdd bychain ddweyd gyda'r Apostol gynt,-"Ni pherffeithir hwy hebom ninnau, hefyd." Y mae cornant y Berwyn, â'r Ddyfrdwy enwog, yn cynganeddu ar eu hymdaith tua'r môr. Telyn y Cysegr-dyna'r olaf. Dyna'r delyn aur. Yr wyf wedi ei gwrando yn foddhaus ar ei hemynau per. "Swn mwy hoff a swn mwy hyfryd" a glywais ynddi, nac a feddai'r byd o'r bron. Amcenais lawer nos Sul, wedi i waith y dydd fynd drosodd, geisio canu gyda'r delyn" hon. Ond yr oedd pob llinell a phennill yn dweyd yn eu hiaith, "Nid wyf deilwng": ac yn efelychu lleisiau'r greadigaeth yn emyn Pantycelyn, "yn distewi a mynd yn fud." Dyna y rheswm fod yr adran hon yn y llyfr yn cynwys llai o ganeuon na'r rhanau eraill. Nid wyf yn bwrw ddarfod i mi gael gafael ar delyn'anian, neu delyn adgof: ond y mae rhywbeth yn y telynau hyn sydd yn peri i ddyn deimlo yn fwy hyderus, ac yn barotach i geisio cyfieithu yr alawon i iaith ei fynwes ei hun.
Y mae beirdd a barddoniaeth newydd wedi ymddangos yn Nghymru er yr adeg y bum i, ac eraill, fel bugail Aberdyfi, yn ceisio canu cân." Yr ydym yn cael ein harwain i froydd goludog, ac i gymdeithas gweledigaethau mawrion a dieithr Ond dichon fod lle eto i ambell i gân seml. Nis gellir darllen Miltwn bob amser. A chredaf fod ambell fardd mawr Cymreig nas gall y meddwl ei ddilyn bob awr o'r dydd. Ambell fin nos, wedi ymflino gyda thrafferthion bywyd, yn lluddedig a diynni, y mae y meddwl yn gofyn am gân. Dyna ei hawr hi. Y mae sain yr organ yn rhy gryf a llethol yn yr awr honno,—estynwch y delyn, moeswch y gân,—yn ngeiriau Longfellow,—
Darllenwch ryw brydydd syml
A'i gân yn ffrydio o'i fron,
Fel cawod o gwmwl hafddydd,
Neu ddeigryn o lygad llon.
Mae cân fel yna yn lleddfu
Ergydion poen a chûr,
Ac yn dyfod fel y fendith
Sydd yn dilyn gweddi bur.
Mewn gobaith fod ambell i gân fel yna yn y llyfr hwn.
Y gorphwys,
Eich gwasanaethwr,
YR AWDWR.
CYNWYSIAD
Telyn Anian
Nos-ganeuon
Blodau'r Gwaenydd
Y Defnyn Bychan Gloew
Y Badwr
Y Llwybr yn y Wlad
Y Blodau yn y Lli'
Y Medelwyr
Hwyrddydd Haf
Mis y Blodau
Cydgan y Bugeiliaid
Ffrwd y Mynydd
Y Rhaiadr
Bwthyn y Bryn
Hiraeth am yr Haf
Y Glöyn a'r Hedydd
Y Fedwen ar y Mynydd
Golygfa
Awn yn Nwyfus
Ar Li y Fenai Loew
Bro Geirionydd
Emyn y Cread
Haf-nos Oleu
Rhosyn y Gwrych
Nawn yn Mis Mehefin
Y Pelydr Haul
Awelon yr Haf
Clychau'r Gwanwyn
Ceinion Cymru
Y Siaced Fraith
Telyn Adgof
Aden y Gân
Yr Ardd Flodau
Llan Dwynwen
Rhodio drwy yr Yd
Tannau Hiraeth
Y Ddwy Ystafell
Emyn Adgof
Y Gadair Wag
Y Garreg Wen
Y Galon Bur
Huned yn Dawel
Yr Ymfudwr
Yr Awel Leddf
Beddrod Mam
Gwywo yn y Gwanwyn
Yr Ynys Gu
Dwy Delyneg
Telyn fy Ngwlad
Caneuon ein Gwlad
Llewelyn y Llyw Olaf
Y Ddau Arwr
Cyfoder y Faner i fyny
Cartrefi Gwynion Cymru
Gof y Pentref
Y Faner Wen
Awn a Meddianwn
Yr Hen Fanerau
Y Mwnwr
Y Bardd a'r Cerddor
Telyn y Cysegr
Bethlehem
Noswyl y Cenhadwr
Cydgan yr Ysgol Sul
Golomen Wen y Diluw
Y Ddinas Sanctaidd
Y Tadau Pererinol:
(1) Glaniad y Mayflower
(2) Bryn y Beddau
(3) Pa le y maent hwy
Breuddwyd Paradwys
Y Tair Gardd
Bedd yr Iesu
Gostyngeiddrwydd
Sancteiddio'r Groes
Hwyrgan ar y Mor
Plant y Dydd
Sabbothau Bywyd
Y Porthladdoedd Prydferth
Hoff Feibl ein Gwlad
LLYFRAU ERAILL GAN YR UN AWDWR
GWLAD YR IESULlian, 1s 6c
GWRONIAID Y FFYDDLlian 1s
ORIAU YN Y WLADLlian 1s 6c, Papur, 1s
AWEL A HEULWENPapur, 1s
CADEIRIAU ENWOGLlian, 1s
CYHOEDDEDIG GAN
GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (Cyf),
CAERNARFON

"O! mawr yw rhwysg y rhaladr gwyn
Ddisgyna mewn ardduniant."
Telyn Anian.

Telyn Bywyd.
Nos Ganeuon.
LLEDAI'R hwyrnos ei mantelli
Dros y dolydd cain a'r llwyni,
Pan, o'r wig gerllaw fy mwthyn
Clywais fiwsig pêr yn esgyn,—
Llais aderyn mwyn ei odlau
A ddisgynai ar fy nghlustiau.
Clyw, ganiedydd, dwed yr achos
Pam y ceni yn y ddunos?
Nid yw'r wawr a'i bysedd rhuddain
Wedi agor dorau'r dwyrain:
Y mae Anian oll yn huno,
Beth a'th geidw di yn effro?
Ateb im, aderyn hynod,
Onid digon y diwrnod
I ti chwareu ar dy delyn?
Gorphwys bellach ar y brigyn:
Beth sy'n chwyddo'th fynwes fechan
Heno i ganu wrth dy hunan?
Ha, ai newydd ddeffro'r ydwyd
O ryw felus, felus freuddwyd,
Ac yn methu, methu oedi
Dim yn hwy heb ei fynegi?
Ai i gôl yr hwyr awelon,
Y tywellti dy gyfrinion?
A osodwyd di'n wyliedydd
I hysbysu gwawr boreuddydd?
Ai tydi sydd yn gofalu
Am ddihuno cor y llwyni?
Cynar yw ymbwylla, aros,
Nid yw toriad dydd yn agos.
Tybed, gantor, fod gofalon.
Yn ymdyrru gylch dy galon?
A all poen ac adfyd estyn?
Cysgod du i fyd aderyn?
Ai rhyw hiraeth lleddf neu siomiant
Geidw gwsg oddiwrth dy amrant?
Tad y seraph, Lluniwr angel,
Roes i ti dy felus ddwsmel:
Ion yw ffynon pur gerddoriaeth
Drwy y nef a'r cread, helaeth,
Byth ni edy neb o'i deulu
Mewn un nos heb fodd i ganu.
Blodau'r Gwaenydd.
GWYNION flodau'r gwaenydd,
Yn mysg yr hesg a'r brwyn,
Ddawnsiant drwy yr hafddydd
O flaen yr awel fwyn.
Mae blodau'r gors yn gwisgo
Eu mantell felen, dlos,
A'r perthi drain yn gwrido
Dan goron gain o rôs.
Daw peraroglau'r meillion
O'r weirglodd ar eu hynt,
Gan ddeffro hen adgofion
Am felus ddyddiau gynt.
Mae'r llwyni dail yn llonydd,
Pan êl yr haul i lawr,
Gan dynu lleni'r hwyrddydd
Dros flodau teg eu gwawr.
A. phan ddaw'r hafnos oleu.
A'i haden laes ar daen,
Mae tylwyth teg y blodau
Yn dawnsio ar y waen.
Gwynion flodau'r gweunydd!
Plant yr hafddydd mwyn,
Arhoswch byth yn newydd,
Yn mysg yr hesg a'r brwyn.
Y Defnyn Bychan Gloew.
DAETH defnyn bychan gloew.
O gol y gawod wlaw,
I dori syched blodyn
Oedd yn yr anial draw:
Nid ydoedd ond diferyn
Yn dod o nefoedd Duw,
Ond dygodd fywyd newydd
I wedd y rhosyn gwyw.
Afonig fach, fynyddig,
Yn sisial ganu'n fwyn,
Ac yfed o'i chwpanau
A wna y grug a'r brwyn:
Nid ydoedd ond afonig
Yn crwydro ar ei thaith,
Ond melus oedd ei chanig,
A gwerthfawr oedd ei gwaith.
Y Badwr.
HOI! Ohoi! medd y badwr llon,
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don,
Dedwyddach yw yn ei siaced lâs
Na'r un boneddwr yn ei blâs:
A phle ceir brenhin mewn un wlad
Mor iach ei fron â theyrn y bâd?
Ohoi! Ohoi! medd y badwr llon
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don.
Ar nawn fo deg, a'r môr yn llyfn
Mor ddifyr ä dros y dyfroedd dyfn:
Mae'n sychu'r chwys ar ei dalcen hardd
Gyda chefn ei law, ac ysgafn chwardd:
Ni phrisia ddim am segur saig
Diorphwys yw fel y don a'r aig.
Ohoi! Ohoi! medd y badwr llon
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don.
Pan rua'r môr, a phan wibia'r mellt,
A'i ysgafn fâd bron mynd yn ddellt,―
Nis gall y storm lwfrhau ei fryd,
Ei obaith wêl yr hafan glyd,―
A miwsig yn ei glustiau ef
Yw brochus raith y dymhestl gref.
Ohoi! Ohoi! medd y badwr llon
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don.
Y Llwybr yn y wlad.
CROESO, hafddydd tawel,
Cennad Gwynfa wen,
Mwyn yw si dy awel,
A gloew yw dy nen:
Adar mân y meusydd
Ganant mewn mwynhad,
Ac O'r fath lanerch ddedwydd
Yw'r llwybr yn y wlad.
Gwyrddion yw y dolydd
Dan yr heulwen glir,
A pheraroglau newydd
Gerddant dros y tir:
Mae'r ddraenen dan ei choron
Fel duwies glaerwen, fâd,
Ac anwyl gan fy nghalon
Yw'r llwybr yn y wlad.
Pell yw swn dinasoedd,
Darfu dwndwr byd,
Dim ond glâs y nefoedd
A'r heulwen—dyna'i gyd:
Hidlo nefol fiwsig
Wna'r ehedydd mad,
A mangre fendigedig
Yw'r llwybr yn y wlad.
Pan y daw yr hwyrddydd
Ar dyner, ysgafn droed,
Caf weled haul yn machlud
Yn araf, drwy y coed,
Ond machlud-nid diflanu
A wna yr heulwen fad,
Ac felly mae adgofion
Yw'r llwybr yn y wlad.
Y Blodau yn y Lli.
AR nawnddydd tyner, balmaidd,
Eisteddwn ger y don,
Gan syllu ar yr afon lefn
A'r heulwen ar ei bron:
Fe lamai'r pysgod nwyfus
I fysg y gwybed mân,
Ac yn y cangau gwyrddion ir,
Ymchwyddai melus gân.
Ar fin y dorlan isel
Fe welais ddraenen wen,
Yn gwenu fel brenhines deg
A'i choron ar ei phen;
A'r afon loew, loew,
Fel drych i'w harddwch hi,
A throai blodau'r ddraenen wen
Yn flodau yn y lli.
Yn ngwyddfod yr olygfa
Yn nifyr swn y don,
Sibrydai'r awel esmwyth, bur,
Y genadwri hon:—
"Tra'n llithro i'r dyfodol
O boed dy fywyd di,
Yn adlewyrchu'r tlws a'r cain,
Fel blodau yn y lli."
Y Medelwyr.
MAE anian yn dihuno
O gôl y ddunos brudd,
A'r haul yn araf hwylio
Drwy ddorau aur y dydd,
Ac ar y waen ymdonna'r ŷd
O flaen yr awel rydd.
Fedelwyr llon! prysurwn
Hyd wlithog lethrau'r bryn,
Pob un a'i gryman yn ei law
I fedi'r gwenith gwyn:
Tra sua'n gloewon arfau
Drwy'r felen gorsen ŷd,
Cyd-lawenhawn wrth dorri'r grawn
Sy'n torri angen byd!
Ar ael y cynhauaf canfyddwn yn rhwydd
Ol bysedd haelioni'n coroni y flwydd;
Pryd hau, a phryd medi, ordeiniwyd gan Dduw,
Ei enw a folwn, ac iddo gwnawn fyw.
Hwyrddydd Haf.
AWEL yr hwyrddydd mor ysgafn dy droed,
Tra'n crwydro yn nwyfus drwy gangau y coed:
Mae balm yn dy gusan, a swyn yn dy dant,
Tra'n suo drwy'r glaswellt ar finion y nant.
Seiniau yr hwyrddydd! mor felus, mor fwyn,
Mae gwrando eich miwsig fel breuddwyd o swyn,—
Emynau yr adar drwy'r llwyni ar daen,—
Brefiadau y defaid ar waelod y waen;
Y wenol yn twitian drwy lesui y nen,
A'r gwenyn yn murmur yn mrigau y pren.
Flodau yr hwyrddydd! mor syml, mor hardd,
O'u gwisgoedd dihalog y neithdar a dardd,
Y gwyddfid a'r meillion—mor beraidd y rhain,
A darn o Baradwys yw rhosyn y drain!
Huan yr hwyrddydd! mawreddog ei wedd,
Yn lliwiau'r gorllewin mae'n ddarlun o hedd,
Tanbeidrwydd ei dremiad a giliodd yn llwyr,
A'i saethau a guddiwyd dan leni yr hwyr:
Gosgordd o gymyl aur-ymyl y sydd
Yn tyner amgylchu gorseddfa y dydd:
Y teyrn a amneidia o'r gorwel,—Nos Da—
Ac felly y machlud ar hwyrddydd o hâ.
Dangnef yr hwyrddydd! mor nefol, mor bur,
O dan dy gyfaredd diflana ein cur,
Dy "Ust" dwfn, cyfriniol, ysbrydol ei ryw
A'n tywys i deml dystawrwydd a Duw!
Mis y Blodau.
MIS dedwyddyd, mis y blodau,
Mis i felus ymfwynhau,
Mwyn gerddoriaeth—swn llawenydd
Glywir yn yr awel beunydd—
Mis y misoedd ydyw Mai.
Bywyd geir yn prysur dreiddio
Drwy oblygion natur lawn,
Yn y llwyni—ar y bryniau―
Chwardda dail a gwena blodau—
Bywyd yn teyrnasu gawn.
Llawn o fiwsig yw y goedwig
Pan ddel Mai a'i wenau mwyn,
Asgell gorau—hwyr a borau,
A ddyhidlant nefol odlau,
Môr o gân yw'r deiliog lwyn:
Doriad gwawr, y llon ehedydd
Seinia fawl ar riniog nef,
Hithau'r fronfraith ar y fedwen
Eilw ar y bêr fwyalchen
I arwain yn yr anthem gref.
Gwen nefolaidd a ymdaena
Gylch gwefusau anian dderch,
Syllu arni wna yr huan,
Erys yn y wybren lydan
Fel cariadfab claf o serch:
Drwy'r ffurfafen, cymyl gwlanog
Deithiant yn osgorddlu gref,
Pan â'r haul o dan ei gaerau,
Gwelir hwy fel myrdd o donnau—
Tonnau aur ar draeth y nef.
Ysgafn rodio rhwng y blodau
Wna y chwa ar flaen ei throed,
Yn yr hwyrddydd, balmaidd, tawel,
Bron na thybiwn mai bys angel
Sydd yn ysgwyd dail y coed:
Croeso, croeso, Fai siriolwedd,
Eiliwn gân i'r dduwies wen,
Casglwn dalaith fraith o flodau,
Plethwn hon gylch ei harleisiau-
Dawnsiwn dan y deiliog bren!
Cydgan y Bugeiliaid.
TEYRNASA tawelwch dros fynydd a gwaen,
A'r hwyr yn ei gerbyd ddynesa ymlaen:
Mae'r haul dros y gorwel yn plygu ei ben,
A'i wên ymadawol yn gwrido y nen.
Ond ha! o'r dwfn ddistawrwydd
Melus-fwyn odlau ddaw,
Yn nghol awelon hwyrddydd
O'r uchelderau draw:—
"Ar lethrau'r mynydd cribog
Y carwn fod a byw,
Cartrefle hoen a hawddfyd,—
Ein hymerodraeth yw:
Ein deiliaid cywir, ffyddlon,
Yw'r defaid mân a'r wyn,
A'n gorsedd ddyrchafedig
Yw'r trumau grug a brwyn.
A thra'n gwylio'r dëadelloedd
Canwn gerdd fugeiliol, fŵyn,
Llawen dreuliwn y nosweithiau
Ar y bryniau gyda'r ŵyn.
Y deadellau gwynion,
Pan ddel yr haf a'i dês,
Arweiniwn i'r cysgodion
I lechu rhag y gwres:
A phan y cuddir anian
Dan lenni'r gauaf gwyw,
Gwynebwn rym ystormydd
I gadw'r praidd yn fyw.
A thra'n gwylio'r deadelloedd,
Canwn gerdd fugeiliol, fwyn,
Llawen dreuliwn y nosweithiau
Ar y bryniau gyda'r ŵyn!"
Ffrwd y Mynydd.
FFRWD y mynydd, loew, lân,
Mor bur ei gwedd, mor bêr ei chân,
Merch y moelydd,
Ar ei glenydd.
Beunydd chwery'r defaid mân,
Troelli mae fel delw swyn,
Rhwng twmpathau grug a brwyn,
Llama, disgyn wedi hyn,
Dros ysgwyddau'r clogwyn syn,
Gwena,
Dawnsia,
Difyr gana,
Nes cyrhaedda odrau'r bryn.
Y Rhaiadr.
O! MAWR yw rhwysg y rhaiadr gwyn
Ddisgyna mewn ardduniant,
O graig i graig, tra gwrendy'r glyn,
Ar ferw ei lifeiriant;
Mae'n rhuo, bloeddio'n wyllt ei raith,
Gan ymdaith i'r dyfnderoedd,
Ac ar y clogwyn clywir iaith
Ei anthem yn oesoesoedd.
Mae'r dyfnder yn ymferwi,
Mae taran yn ei lef,
Mae'r ewyn gwyn yn codi
Fel nifwl tua'r nef:
Ond, ha, fe gwyd yr heulwen,
Dros grib y mynydd mawr,
Ysbrydion gwyllnos ffôant,
Ac uwch yr erch lifeiriant,
Daw enfys deg ei gwawr,—
Daw enfys deg ei gwawr.
O mawr yw rhwysg y rhaiadr gwyn,
A'i adlais gref yn deffro'r glyn,
Mae grym ac arswyd yn ei wedd,
Ond ar ei fron mae enfys hedd.
Raiadrau bywyd, gwyllt eich gwedd,
Byth ar eich llif boed enfys hedd!
Bwthyn y Bryn.
CAIFF eraill fyw ar waelod gwlad
Gerllaw y tawel li,
Ond bwthyn gwyn ar ael y bryn,
Yw'r fan a garaf i:
Caf chwareu a'r wyn, rhwng grug a brwyn,
Ar hyd llechweddau'r fron,
A gweld yr haul ar derfyn dydd,
Yn suddo i gôl y don.
'Rwy'n hoffi chwiban croch y gwynt,
A rhu y storom gerth,
A'r curwlaw trwm ar fryn a chwm,
Yn disgyn gyda nerth:
Tra rhed y gornant heibio'r ty
A'i llif yn ewyn gwyn,
Rwy'n ddeddwydd iawn, o fore i nawn,
Yn mwthyn bach y bryn.
Hiraeth am yr Haf.
DAETH Mai a'i wyrddlesni,—mis blodau a swyn,
Daeth dail a melodedd i frigau y llwyn,
Ond chwythu mae'r awel o gartref yr iâ,
A minnau yn gofyn,—
"Pa bryd daw yr hâ?"
Daeth meillion i'r dolydd: mae'r ddraenen yn dlos,
A deunod y gwcw a glywir fin nos,
Er hyny, mae nghalon lle bynag yr â
Yn holi mewn hiraeth,—
"Pa bryd daw yr hâ?"
Daeth adar i nythu'n y goedlan fel cynt,
A'r wennol ymsaetha drwy'r awyr ar hynt;
Er hyny, yr holiad yn ddistaw barhâ,
Pa le mae yr heulwen?—
"Pa bryd daw yr hâ?"
Yn araf, ymholydd, medd glasddail y coed,
A sibrwd briallen yn ymyl fy nhroed,
"Wyf un o genhadon y Prydferth a'r Da,
Mae'r blodau yn dystion,—
Mai dyfod wna'r hâ."
Broffwydi bach anian! 'rwy'n hoffi eich iaith,
Mae haf yn eich calon tra'ch llygaid yn llaith:
Dan rin eich sirioldeb fy mron ysgafnhâ,
Os agos yw'r blodau,—
Nid pell yw yr hâ!
Y Gloyn a'r Hedydd.
SUA'R chwaon nwyfus, gwisgi,
Fiwsig haf ar dannau'r perthi,
O, mae sawr rhosynau gwylltion
Yn gwneyd Eden o'r awelon.
O'i ymguddfan yn y gwaenydd,
Esgyn beunydd wna'r ehedydd,
Esgyn, canu melus gerddi,
Nes ymgolli yn y glesni.
Anwel yw y cerddor glan,
Ond nis gellir cuddio'r gân,
Anhraethadwy beraidd yw
Ar ei hynt o nefoedd Duw.
Tra yn gwrando'r alaw burlan
Glöyn byw ddaw ar ei hedfan,
Yn ei fantell amryliwiol,
Ar ei aden fraith, symudol.
Blentyn haf, oes myfyrdodau
Iddo'n dod o blith y blodau?
Gain bererin! hyfryd yw
Annibyniaeth gloyn byw!
Y Fedwen ar y Mynydd.
The Silver Birch.
YN unig ar lethrau y mynydd ceid hi,
Ei brigwallt gusenid gan wlithos di-ri,
Gorphwysai'r aderyn rhwng cangau heirdd hon,
A'r gornant â'i heibio dan ganu yn llon:
Ymweled a'r fedwen arianaidd a thlos,
Wnai huan y bore ac awel y nos.
Daeth arglwydd y mynydd ryw ddydd heibio'r fan,
Gresynai mai'r anial di-nawdd oedd ei rhan,—
Ti, blentyn y mynydd, cei ddyfod i lawr,
Dy gangau arianaidd gysgodir bob awr.
Mae genyf ardd gynhes, ac uchel ei chlod,
Hardd fedwen y mynydd, ac yno cei fod.
Symudwyd y fedwen, fe'i cludwyd i lawr
I ganol y blodeu pereiddiaf ei sawr,
Ond wylo am awel y mynydd wnai hi,
Am fwswg, a rhedyn, a murmur y lli;
Tywalltai ei hiraeth i fynwes y nos,,
A gwywodd y fedwen lle gwenai y rhos!
Golygfa.
CAREG lwyd, fwsoglyd, ger y gloew li,
Hafddydd mwyn a hyfryd,—dyna'm gwynfyd i;
Gwrando dwndwr afon yn y cerig mân,
Ddeffry yn fy nghalon felus, felus gân.
Anwyl, anwyl Gymru, bendigedig yw
Dy ddyffrynoedd tawel, lle mae hedd yn byw,
Caraf weld cysgodau'r cwmwl ar y ddol;
Caraf ddilyn tonnau yr awel ar eu hol!
Awn yn nwyfus.
AWN yn nwyfus i'r mynyddau,
Dringwn lethrau'r gwyrddlas fryn,
Yfwn awel bur y moelydd,
Lle y crwydra'r cwmwl gwyn:
Awn lle dawnsia y cornentydd,
Awn lle gwena blodau'r maes,
Awn lle cân y gog a'r hedydd
Fawl yr haf mewn awyr las!
Ar Li y Fenai Loew.
AR y Fenai loew yn ysgafn dawnsiai'r bâd,
A hwyliai'r cwmni llawen heb don ar eu mwynhad;
'Roedd gwen ar wyneb anian a'r haf yn llenwi'r tir,
Yr awel yn sidanaidd a'r nefoedd oll yn glir.
Daw llawer diwrnod pruddaidd i'm cwrddyd ar fy hynt,
Collaf wen yr hafddydd a rhuo wna y gwynt;
Ond cofiaf am y cwmni, y llonder a'r mwynhad,
Ar li y Fenai loew pan oeddwn yn y bâd.
Bro Geirionydd
BRO Geirionydd! cartref swyn,
Pa lo mor fwyn i brydydd?
Llwyni deiliog, bryniau derch,
A llawer llanerch lonydd:
O flwydd i flwydd, mae'r wynfa dlos
Yn aros fyth yn newydd.
Melus dianc enyd bach.
O'r ddinas afiach, drystiog,
Melus crwydro'r dedwydd dir
Ar ddiwrnod clir, awelog,
A melus gorphwys dan las nen,
Ger hen bont bren Cwmanog.
Llithro mae y tawel li
O dani tua'r eigion,
Ac yna, yn y graian mân
Mae'n canu mwyn acenion,
A llawer pren canghenog, ir,
Ddelweddir yn ei ddwyfron.
Siarad am y dyddiau fu
Mae su y dwr grisialog,
Dyddiau Ieuan gu ei gân,
Pan grwydrai'r glannau gwelltog,
Cyn clywed rhu'r "Iorddonen ddofn,"
Ac "ofn" ei dyfroedd tonnog.
Ieuan fardd! dy gân, dy gwyn,
Sy'n meddu swyn yr hafddydd,
Sibrwd sain dy enw di
Mae gloew li Geirionydd,
A chyd-ymdeithio i'r oes sy'n dod
Wna'r ffrwd a chlod ei phrydydd.
Anwyl Gymru! cartref cain
Y mirain a'r mawreddog,
Hyfryd ydyw crwydro'n rhydd
Ar hyd dy froydd goludog;
A melus gorphwys dan las nen
Ger hen bont bren Cwmanog!
Emyn y Cread.
(Victor Hugo).
AR nos serenog, ger y don,
Fy hun y safwn i,
Digwmwl oedd y nefoedd,
Heb hwylbren ar y lli':
Fy llygaid draw a dremient
Tu hwnt i orwel byd;
Tra'r gwyntoedd oll a'r moroedd
Ac anian fawr yn nghyd,
Fel pe yn cêl-ymofyn,
Mewn murmur cymysg lef,—
Gwanegau maith yr eigion,
Ac eirias danau'r nef.
A'r ser, aneirif luoedd,
Y ser o euraidd liw,—
Mewn uchel ac mewn isel lef
Cynghanedd filwedd fyw,—
A ddwedent tra yn plygu
Pob coron aur i lawr,
A hwythau'r glasliw donnau
Herfeiddiol, gwyllt eu gwawr,
Atebent, tra'n penlinio
Ar draethau maith y môr,—
Yr Arglwydd sy'n teyrnasu,
Yr Arglwydd, gadarn Ior!
Haf-nos Oleu.
Y NOS dawel, fwyn,
'Rwy'n caru dy wedd,
Wyt orlawn o swyn,
Mor felus dy hedd!
Dystawrwydd a ddaeth
I'w orsedd yn awr,
Diflanu a wnaeth
Holl ddwndwr y llawr.
Y meillion a'r rhos
Pan gilio yr haul,
A gysgant drwy'r nos
Yn mentyll eu dail.
Yn wylaidd y daw.
Yr awel fain, fwyn,
A thery ei llaw
Ar delyn y llwyn.
Y fyw, loew nant,
Arianaidd ei llun,
Yn ngwaelod y pant
A sieryd drwy'i hun!
Y môr yr awr hon
Llonyddu a wnaeth,
A hepian wna'r don
Ar fynwes y traeth.
Oddiar ei haur sedd
Y wenlloer uwchben
Wasgara ddwfn hedd
Drwy ddaear a nen.
Drwy'r nos falmaidd, gün,
Gorphwyso wna'r byd,
A llaw dyner Hun
Yn siglo ei gryd.
Rhosyn y Gwrych.
O ROSYN y gwrych,
Mor hardd yw dy ddrych,
Dan wenau caredig yr hafddydd:
Ar lwybrau y glyn
Yn goch ac yn wyn,
Wyt anwyl i galon awenydd.
Rhosynau yr ardd,
Ynt ddillyn a hardd,
A'u henwau mewn bri ac anrhydedd:
Ond cyfuwch ei werth
Yw rhosyn y berth,
Er treulio ei oes mewn dinodedd.
Ar foreu o haf
Eu gwenau a gaf,
Mor swynol ar ymyl y llwybrau:
A'r awel a ddaw
'Rol cawod o wlaw
Eneinir a'i hyfryd bêr-sawrau.
A phan ddel yr awr
I'r haul fynd i lawr,
A phan yr ymdaena'r cysgodau,—
Daw adar y llwyn
I arllwys yn fwyn
Eu hwyrgan yn ymyl y blodau.
O rosyn y gwrych,
Mor hardd yw dy ddrych,
Tra'n gwrido mewn symledd di-ofal,
Dy liw a dy lun
A dystia fod Un
Yn gwylio dros rosyn yr anial.
Hardd rosyn y berth,
Pa geinder mor ferth?
Yn d'ymyl yr hoffem gael aros:
Mae'r Dwyfol o hyd
Drwy oesau y byd,
Yn nghanol y Berth yn ymddangos:
Nawn yn Mis Mehefin.
EISTEDD wnaem yn nghwr y llwyn,
Nawnddydd tawel,
Dan ddylanwad melus, mwyn,
Telyn awel:
Su y chwa yn mrig yr onn,
Beth mor hyfryd?
Cludir eilwaith i fy mron
Oriau gwynfyd.
Lleda dail mewn awyr glir
Wyrdd fanerau,
Dawnsia heulwen ar y tir,
Gwena blodau:
Neuadd lawn yr asgell gôr
Yw y goedlan,
Diluw cerdd fel tonnau'r môr,
Leinw anian.
Yma doed y teithiwr blin
Am adfywiad,
Yfed gâ o beraidd win,
Nef-ddylanwad:
Pryder, helynt byd, a'i boen
Yma dderfydd,
Adfer iechyd, nerth, a hoen,
Wna yr hafddydd.
Gwrando chwiban hyfryd, llon
Adar dedwydd,
Gyda'r awel, ddwg i'r fron
Fywyd newydd:
Pur dangnefedd yma gawn,
Nefol, cyfrin,
Melus gof fydd am y nawn
Yn Mehefin.
Y Pelydr Haul
(Mrs. Hemans)[1]
BELYDR haul! nid y palas drud
Yw dy gartref di, ond yr ehang fyd:
Gludydd claer obaith dros ddaear a lli,
Belydryn! pa rodd fedd y byd fel ti?
Dy dyner gyffyrddiad a ddofa yr aig,
Croesawu dy wên wna y noethlwm graig:
Yr hwyliau a ledir, a chwardda y don,
A'r morwr a deimla yn ysgafn ei fron.
O fynwes ddu, ddofn y goedwig bell,
Ymlid wnei di y fagddu hell,
Ac ar dy ddynesiad yr ieuaine ddail
A gurant eu dwylaw-belydr haul.
Edrych a wnes ar y mynydd a'r bryn,
Eu penau orchuddid gan nifwl gwyn.
Ond pan roddaist dro i'r fangre hon,
Y niwloedd wyleiddient ger dy fron.
Canfyddais fwthyn yn nghesail y cwm,
A phrudd-der o amgylch ei furiau llwm:
Ond gwenaist ti drwy'r ffenestri dellt,
A gwisgaist a swyn y bwthyn tô gwellt.
Ymweled yr wyt a'r dyffryn bras,
Anwylo dy wên wna yr anial crâs;
Dy riniau a bair i'r adfail oer, ddu,
Freuddwydio am wynfyd y dyddiau a fu.
Ar doriad y dydd, drwy y distaw làn,
Tramwy a wna dy oleuni càn,
Ac ar y glwysgor a'r oriel fry
Dylif o wawl a arllwysi di.
Ymweled yr wyt a'r distaw fedd,
Ei laswellt llaith a roesawa dy wedd,
Gwasgar ei brudd—der wna d' olwg llon,
A huni mewn hedd ar ei wyrddwawr fron.
Belydr haul! beth sy' debyg i ti?
Gobaith yr anial—addurn y lli:
Mae unpeth fel ti—y werthfawr ffydd—
A'n dwg i wen fro yr anfarwol ddydd.
Awelon yr Haf.
MYND a wnawn o neuadd anian
Ar foreuddydd hafaidd, gwyn,
Gwisgwn ein sandalau arian,
Canwn, dawnsiwn dros y bryn.
Dringwn i'r mynyddau
Fry i gwrdd y wawr,
Llithrwn dros eu llethrau,
Llamwn hyd y creigiau
I ben y mynydd mawr.
Rhedwn tua'r dyffryn
I ddeffro'r blodau mân;
Ar delyn werdd y goedwig
Seiniwn newydd gân;
Awn, awn ar aden sidan
Dros wair, ac yd y ddol,
A phob glaswelltyn purlan
A wena ar ein hol.
Y môr! y môr! y llydan fôr,—
Ac yno gyda'r don,
Dan wenau haul yr hafddydd clir
Chwareuwn alaw lon:
Canwn yn yr hwyliau
Wrth fynd i ffwrdd, i ffwrdd——
A chana'r morwr yntau
Yn ddifyr ar y bwrdd.
Ar derfyn dydd dychwelwn,
Dros fôr, a bryn, a rhos,
Yn neuadd Anian hunwn—
Gorphwyswn—daeth y nos!
Clychau'r Gwanwyn.
Ding! dong!
Dedwydd, llon,
Glywir heddyw yn mhob llwyn:
Clychau arian,
Teml Anian,—
Clychau'r gwanwyn melus, mwyn,
Ding! dong!
Dedwydd, llon,
Cana'r dail ar frig y pren,
Cana'r hedydd yn y nen,
Cana'r nentydd gloewon glan,
Dawnsia'r blodau gyda'r gân,
Deffry gwaen a dyffryn;
Gyda'r boreu newydd, gwyn,
Canai clychau ar bob bryn,—
Mwynwn glychau'r gwanwyn!
Ding! dong!
Dedwydd, llon,
Clychau hyfryd,
Gwanwyn bywyd,
Ganant odlau llawn o swyn;
Clywch y miwsig melus, mwyn;
Canant am brydferthion
Dol a bryn,
Canant am obeithion
Hafddydd gwyn.
Ding! dong!
Dedwydd, llon,
Clychau'r gwanwyn,
Boed ein bywyd
Fel y rhain!
Ceinion Cymru.
CEINION Cymru, cartref cân,
Llynnau gloewon, ffrydiau mân,
Bryniau gwelltog, llwyni gwyrdd,
Crwydra Adgof hyd eu ffyrdd;
Tlws yw Anian ar bob tud,
Cerdda ceinder dros y byd.
Ond o bobman dan y nef
Cymru yw ei gartref ef.
Engyl aur—adeiniol glân,—
Garant awyr gwlad y gân.
Carwn geinion Cymru,
Cartref swyn yw Cymru.
Cestyll llwydwawr Cymru sy
Yn delweddu'r oesau fu,
Ond mae'r bwthyn ger y llwyn,
Fyth yn aros yn ei swyn,
Tua'r nef Eryri gwyd
Ei huchel grib, a Dyffryn Clwyd
Leda'i fynwes megis cynt,
Treigla'r Ddyfrdwy ar ei hynt,
Engyl wrendy ar y dôn,
Gana'r môr gylch Ynys Mon,
Carwn geinion Cymru,
Cartref swyn yw Cymru.
Yma ceinder ar ei sedd
Sy'n arlwyo dwyfol wledd,
Gwisga'r creigiau cribog mawr,
Gyda'r mwswg tlws ei wawr,
Ar y doldir, glaswellt îr,
Wasgar fwynder dros y tir;
I bob llwyn daw mantell gain,
Gwena blodau ar y drain;
Engyl holant ar eu hynt,
A oedd Eden hardded gynt?
Carwn geinion Cymru,
Cartref swyn yw Cymru.
Miwsig ei rhaiadrau gwyn
Ddeffry'r adsain yn y glyn,
Cydgan haf, ac awel fwyn
Dry bob gwig yn deml swyn;
Cân y gornant ddifyr iaith,—
Swn yr afon ar ei thaith:
Ser y nos, a gwrid y wawr,
Lliwiau'r haul wrth fynd i lawr,
Hawdd y gallai engyl nef
Drochi eu hedyn ynddo ef.
Carwn geinion Cymru,
Cartref swyn yw Cymru.
Siaced Fraith.
I.
MAE'R Gwanwyn yn dod
I wisgo'r coed,
Bob un yn ei siaced fraith:
Mae'r boreu mor fwyn,
Awn, awn tua'r llwyn
I weled y Gwanwyn yn gwisgo-
Ei blant yn eu siaced fraith.
II.
Mae'r goedwig fu gynt,
O flaen yr oer wynt,
Yn rhynu, a'i llygaid yn llaith,
Yn gwenu yn awr
Dan gusan y wawr,
Gan wisgo ei siaced fraith.
III.
Ha, ha ha ha, meddai dail y llwyn,
A'r blodau ŷnt oll yr un iaith,
Mae deilen a blodyn, yn moli y Gwanwyn,
Pob un yn ei siaced fraith.
IV.
Plant y Gwanwyn ydym ninnau,
Wedi cychwyn ar ein taith,
Canwn emyn foreu Gwanwyn—
Emyn dlôs y siaced fraith:—
Siaced fraith y Gwanwyn!
Mor newydd ac mor lân,
A'n bywyd ni, yn ei harddwch hi,
A fyddo'n llawn o gân."
V.
Ha, ha ha ha! meddai dail y llwyn,
A ninnau adseiniwn yr iaith;
Mae'r Gwanwyn o hyd yn galw y byd
I wisgo ei siaced fraith!

"Dan gysgod hen furiau y castell
Safasom ar noson ddi-hedd."
Telyn Adgof.
Aden y Gan.
MEDDWL ar ei aden,
Dyna ydyw cân,
Fel ehedydd llawen
Yn y wybyr lân.
Huno wuai'r syniadau
Yn y nos ddi-wawr,
Fel y tryblith boreu,
Cyn y "Bydded" mawr.
Ysbryd gwyn yn ngharchar
Fu y gân, dan gudd,
Cyn i angel hawddgar
Agor dorau'r dydd.
Fel y del cawodau
At y blodyn gwyw,
Felly daw mynudau
Ysbrydoliaeth fyw.
Yna'r meddwl llonydd.
Hunai dan y llen,
Wisgir ag adenydd,
Gyfyd tua'r nen.
Bellach, hedfan, hedfan,
Ar ei aden gain,
Llawer calon egwan
Swynir gan ei sain.
Cana am y Wynfa,
Am y tlws a'r pur:
Cana nes anghofia'r
Fynwes am ei chur.
Cana drwy yr oesoedd,
Diflin yw ei hynt,
Ieuanc fel y nefoedd
Yw cân y dyddiau gynt.
Yr Ardd Flodau.
(Moore).
I wn am ardd flodau yn ymyl y lli,
Lle cân y fwyalchen ar frig coeden werdd,
Ac yn nyddiau mebyd, fel breuddwyd i mi,
Oedd gweled y blodau, a gwrando y gerdd:
Mae'r ardd hono'n aros mewn adgof bob pryd;
Ond pan ddaw y gwanwyn ymholi'r wyf fi,
A ydyw y fwyalch yn canu o hyd?
A'r blodau yn gwenu yn ymyl y lli?
Na, na yr ardd flodau'n wywedig a droes,
Ond casglwyd ychydig rosynau têg, braf,
A'r gwlith eneinedig oedd ynddynt a roes,
Bersawredd yr hafddydd,-'rol marw yr haf:
Ac felly dwg adgof y dyddiau fu gynt,
Hyfrydwch a erys yn bersawr i mi,
Ac anwyl i'm calon, lle bynag fy hynt,
Yw cartref y blodau yn ymyl y lli.
Llan Dwynwen.
LANERCH dawel, gysegredig,
Ar y graig gerllaw y lli,
Cafodd seintiau erlidiedig
Hedd a nodded ynot ti:
Yn yr oesau tywyll, creulon,
Buost yn oleuni gwyn,
Mynych gyrchai pererinion
I'r cynteddau distaw hyn.
Nid oes heddyw ond adfeilion
Teml fu'n ogoniant gynt,
Maen ar faen ddatodwyd weithion,
Aeth yr hanes gyda'r gwynt:
Chwyn a glaswellt sydd yn tyfu
Dros y ganghell oer, dylawd,
Stormydd gaua' sy'n chwibanu
Trwy y muriau ar eu rhawd.
Y mae nerthoedd mawrion amser,
Wedi treulio'r adail gre',
Nid oes mwyach "gred na phader"
Gair na chynghor yn y lle:
Ond mae goleu pur gwybodaeth,
Wenai yma yn y nos,
Wedi gwasgar dros bob talaeth,
Torodd ddydd ar Gymru dlos.
Yn ngoleuni clir yr hafddydd,
Hyfryd teulio orig gu,
Ger yr eglwys lwyd a llonydd,
Cymwynasydd Cymru Fu;
Er mwyn cofion oes gyntefig,
Na ddoed troed i'r fangre hon
I halogi'r adfail unig
Ar y graig yn swn y don!
Rhodio drwy yr yd.
MAE'R haul yn araf suddo draw,
Distawodd anian gu,
O tyrd, fy meinir, moes dy law,
Fel yn y dyddiau fu:
A thros ysgwyddau flwyddi maith
Cawn syllu ar y pryd,
Pan fyddem gynt ar ddifyr hynt,
Yn rhodio drwy yr yd.
Mae su yr awel yn y dail,
A'r blodeu llon eu llun,
Mao cân yr adar, machlud haul,
Yn aros eto'r un:
Mae swyn nefolaidd anian dlos
Yn para fel y pryd
Y gwelais rywun, gyda'r nos,
Yn rhodio drwy yr yd.
Dy gofio 'rwyf, gydymaith fwyn,
Yn lodes wridog hardd,
A minnau, dan dy ddenol swyn
Ryfygwn fod yn fardd:
Ac er i'r oriau euraidd hyn
Ddiflanu ffwrdd i gyd,
Eu dwyn yn ol mewn adgof gwyn
Wna rhodio drwy yr yd.
Am hyn, fy meinir, law yn llaw,
Awn allan fin y nos,
Tra'r haul yn araf suddo draw,
Tra huna anian dlos:
Mae'r hwyr gysgodau yn neshau,
Ond melus cofio'r pryd,
Pan fyddai dedwydd, dedwydd ddau
Yn rhodio drwy yr yd!
Tannau Hiraeth.
(Aralleiriad).
LLE mae'r cwmni difyr, dedwydd,
Welwyd ddyddiau maith yn ol,
Yn cydchwareu mewn boddineb
O gylch aelwyd wen y Ddol?
Neu ar lawer nawnddydd hafaidd
Yn y melyn feusydd yd?
Etyb hiraeth yn y fynwes,
"Cilio wnaeth y rhain i gyd."
Hwyliodd rhai i froydd pellenig,
Casglu cyfoeth oedd eu nod,
Eraill ddenwyd at y cefnfor,
Ac yn forwyr mynent fod;
Cefnodd rhai ar fyd y gofid,
I'r deg hafan lonydd, glyd,
Lle mae'r môr yn dawel, dawel
"Cilio wnaeth y rhain i gyd."
Mae ychydig eto'n aros,
I'n hadgofio am a fu,
Ond maent hwythau yn cyfnewid,
Pobpeth daear ymaith ffy;
Treigla blwyddi,—llithra amser,—
Dros derfynau marwol fyd,
Cenhedlaethau ddwg i'w canlyn,—
"Cilio wna y rhai i gyd."
Y Ddwy Ystafell.
UN hwyr, gogwyddais at y ddôr,
Sy'n cau ar gudd-ystafell gofid,
A chlywais swn, fel ymson tonau'r môr,
Pan fo ystormydd yn eu hymlid
Cwynfanus gri, fel eiddo'r awel sydd
Yn crwydro drwy y llwyn a'r nos auafol
Esgynai fry, ac ocheneidiau prudd,
A lanwent yr ystafell oer, unigol.
Deffroais fel o freuddwyd llawn o swyn,
Ac ar fy nghlyw ymdorrai miwsig mwyn,
Llawenydd oedd, yn ei ystafell gain,
Yn pyncio mirain gân, a pheraidd sain.
Hunasai gofid llonder ysgafn wedd
Anadlai ar fy enaid hoen a hedd
Yn lle'r ochenaid ddofn, a'r isel gri,
Acenion hyfryd lanwai'm dwyfron i;
Cerddoriaeth mebyd, gollais ar fy hynt,
A'r dannau llonder chwyddai megis gynt,
Cryfhâ y gerdd cyflyma'r ddawns ymlaen,
A'm calon gryn dan ddylanwadau'r gân.
O Lawenydd, er mor anwyl,
A llesmeiriol ydwyt ti,
Paid, O paid a deffro'r gofid,
Huna yn fy nghalon i.
Huno mae, a huno'n ysgafn,
Isel, weithian, fo dy lef,
Nis gall byd ei roi i gysgu,
Awel wan a'i deffry ef.
Huno mae, a ffol yw meddwl
Iddo ado'r fynwes hon,
Er yn ddistaw, erys gofid,
Yn ei gafell dan fy mron.
Huno mae: ond effro, effro,
Ydyw Llonder, siriol wedd,
Gyda'i gynghan bêr, nefolaidd,
Gyda'i salm, a'i felus hedd.
O Lawenydd! bydd ofalus,
Mwyn ac isel boed dy lef,
Yn dy ymyl huna gofid,
Paid, O paid a'i ddeffro ef!
Emyn Adgof.
DAN gysgod hen furiau y castell
Safasom, ar noson ddi-hedd,
Cymylau orchuddient y nefoedd,
A'r lloer a giliasai o'i sedd:
Ymdaenai y niwl dros y glanau,
A chlywem gerddoriaeth ddofn, brudd,—
Anthemau y môr yn y pellder
Yn torri ar draethau oedd gudd.
O'n deutu, ar lanw y Fenai,
Pelydru ar fynwes y don,
Wnai ambell oleuni gwyn, tawel,
Gan sibrwd gobeithion i'n bron:
Goleuni i wylio'r peryglon
Sy'n llechu dan fantell y nos,
Goleuni i arwain yn ddiogel
I'r hafan ddymunol a thlôs.
Reolydd y môr a'r ystorom!
Pan gilia goleuni y dydd,
Pan ddelo y niwl a'r bryderon
A'n bywyd yn lleddf ac yn brudd :—
Dod ini'r goleuni mwyn, tyner,
I wylio ein camrau bob awr,
Goleuni i arwain ein gobaith
I oror dragwyddol y wawr.
Y Gadair Wag.
FEL y daw y mwyn awelon
I ymdonni dros y ddôl,
Felly'n fynych daw adgofion-
Hiraeth-donnau ar ei hol:
Tyner ydoedd fel yr hafddydd,
A thryloew fel y don,
Pan y byddo ser yr hwyrddydd
Yn pelydru ar ei bron.
Pur a syml oedd ei bywyd,
Tawel fel y wybren glir,
Mawr ei gofal, cyson, diwyd,
A diragrith fel y gwir:
Distaw yr ehedodd ymaith
I'r Baradwys deg, ddinam,
Melus fo ei choffadwriaeth-
Cadair wag fydd cadair mam!
Y Garreg Wen.
MI godais garreg wen,
Un dydd, ar lan y lli,
Yn mysg y cerrig ar y traeth
'Doedd un mor wen a hi:
'Roedd yno lawer maen
Yn hen a llwyd ei wawr,
Ond gwynach ai y garreg wen
Ar ol y stormydd mawr.
Mi gwrddais gywir ffrynd,
Un dydd, ar draeth fy oes,
A dal yn ffyddlon imi wnaeth
Dan lawer awel groes:
Pan ruai'r gauaf du,
A phan dywyllai'r nen,
Arhosodd hon, yn bur ei bron,-
'Run fath a'r garreg wen.
'Rwy'n caru'r garreg wen
Fel trysor hardd ei wedd,
A'r olwg arni lawer awr
A ddyry imi hedd:
Mi gofia'r hafaidd ddydd
Dan lesni dwfn y nen,
Pan welais hi ar lan y lli,
Fy hawddgar garreg wen.
Yn nrych y garreg wen
Mi welaf ddarlun clir,
O'r un a fu'n gydymaith gu
Ar hyd y blwyddi hir:
Arhosed felly imi mwy,
Nes delo'r daith i ben,
A chwrdded fi, tu draw i'r lli,
Yn ngwlad yr Orsedd Wen.
Y Galon Bur.
(Un o ddarluniau Syr Noel Paton).
WYT ti'n cofio'r darlun hwnw,
Yr edrychem arno'n syn,
Pan y gwelem yn y cyfnos,
Yr olygfa ar y Llyn?
Llyn Peryglon oedd ei enw,
Tywyll oedd ei donnau prudd,
A diflanu yn y pellder
Wnai pelydrau ola'r dydd.
Wyt ti'n cofio'r bâd rhyfeddol
Yn ymsymud dros y don,
Wyt ti'n cofio gwyneb gwelw,
Y rhyfelwr dewr ei fron?
Yno gyda'i farch blinedig
Safai yn ei harddwisg ddur,
Ar ei ymdaith at y trysor,
Nas gwelir ond gan galon bur.
Wyt ti'n cofio'r ffurfiau hudol,
A ddelweddid yn y lli?
Pleser nwyfus, gyfareddol,—
Anobaith—yn ei hymyl hi!
Suo-ganant, ond eu hymgais
Ydyw temtio rhinwedd gwyn,
O ryfelwr! gwylia arnat,
Neu dy feddrod fydd y Llyn.
Wyt ti'n cofio'r angel-rwyfwr
A eisteddai yn y bâd,
Mantell wenliw, gwallt modrwyog,
Nefol oedd ei wyneb mad:
Goleu claer ei wedd a'i wisgoedd
Chwareuai ar yr arfau dur,
Braidd na chlywem ef yn dwedyd—
Gwyn ei fyd y galon bur!"
Huned yn Dawel.
HUNED yn dawel dan gysgod y bryniau
Lle treuliodd flynyddau boreuddydd ei hoes,
Blin fu ei hymdaith drwy fyd y gofidiau,
Ond glansodd yn iach yn y Wynfa ddi-loes:
Un addfwyn a fu: un hynaws, garedig,
A gweini i eraill oedd iddi'n fwynhad,
Mor felus ei hedd lle "cân y gwaredig'
Ar danau'r cyfamod yn nheyrnas ein Tad.
Yr Ymfudwr
MI gofiaf yr adeg
Pan safem yn nghyd,
Ar fwrdd yr agerlong
Yn bruddaidd a mud:
Cyfodwyd yr angor,
Gadawsom y bwrdd,
A'm calon yn gofyn-
Pa bryd cawn ni gwrdd?
Ymdeithiai'r blynyddau
Fel ton ar ol ton,
Ond chwyddo wnai hiraeth
O hyd dan ein bron:
Ai byw yr ymfudwr
Gofynem yn ffol,
Oes gobaith ei weled
Yn dychwel yn ol?
Hawddamor, ymfudwr,
Medd murmur y don,
A sibrwd yr awel
Groesawiad i'w fron:
Hedd-finion y Fenai
Ddifyra dy hynt,
A gwenau cyfeillion
Y dyddiau fu gynt.
Yr Awel Leddf.
CRYNU yn yr awel leddf
Wna'r ddeilen welw, grin,
Y gauaf ddaeth â breichiau noeth,
A'i oer dymhestlog, hin:
Y blodau wenent ar y fron,
Ynt heddyw'n wyw a phrudd,
A chrefant am i wanwyn ddod
I'w gollwng hwy yn rhydd;
Ni chlywir braidd aderyn mwyn
Yn trydar rhwng y dail,
Ymlapio mewn cymylau trwch
A wna y dydd a'r haul.
Cofio 'rwyf am danat, ffrynd,
Drwy y nosweithiau hir,
A chofio am y gwanwyn gwyrdd
A'r nen yn las a chlir:
Ond pan ddel haf, a'i dywydd braf,
A'i wleddoedd chweg, di-ri,
Dyfnha fy hiraeth am na chaf
Dy gwmni serchog di:
Mewn beddrod pell, gorphwyso'r wyt.
Dan fantell wen yr iâ,
Ond disgwyl 'rwyf cael eto gwrdd
Yn ngwlad tragwyddol ha.
Beddrod Mam.
MAE mynwent ddiaddurn y pentref
Yn fan cysegredig i mi,
Fy serch a ymglyma am dani,
Er na fedda fawredd na bri:
Can's yno, mewn congl unigol,
Dan gysgod yr hen ywen gam,
Sy'n gwylio aneddle y meirwon
Mae'r llannerch lle gorwedd fy mam.
'Rwy'n teimlo rhyw swyn yn y llanerch,
Ac yno pan ddarfo y dydd,
Ymgiliaf o ddwndwr y pentref
I adrodd fy helynt yn brudd:
A phan fyddo'r haul wedi machlud,
Fy meddwl yn fynych rydd lam,
I'r wlad sy'n oleuni diddarfod
O'r llanerch lle gorwedd fy mam.
Pan fyddo'r byd arnaf yn gwgu,
Pan na chaf un wyneb yn llon,
Y wybren yn ddu a chymylog,
Cyfyngder yn gwanu fy mron:
Fel pelydr dan odreu y cwmwl
Yn gwasgar ei oleu di-nam,
Yw enyd o dawel fyfyrdod,
O'r llanerch lle gorwedd fy mam.
Pan ddelo yr adeg i'm groesi'r
Iorddonen frawychus ei rhu,
Pan gauer fy llygaid yn angeu,
Pan rodiaf y glyn tywyll, du:
O rhowch fy ngweddillion i orwedd
Dan gysgod yr hen ywen gam,
Nes del adgyfodiad i'm deffro
O'r llanerch lle gorwedd fy mam.
Gwywo yn y Gwanwyn.
AR ymyl werdd y Gwanwyn,
Mor anodd cloddio bedd!
Paham daeth angau'r adeg hon
I dori tannau hedd?
Paham y dygwyd ymaith,
O fysg ei theulu mân,
Un oedd a'i bywyd oll mor lawn?
Mor dyner, ac mor lân?
Fel hyn mae llawer holiad
Yn dod, yn welw'i wawr,
Ond dywed Un "Y peth a wnaed,
Nis gwyddost ti yn awr."
Nis gwelwn ni ond cwr y llen,
Ni wyddom ond o ran,
Ond ffy y nos, a daw y dydd—
"Cei wybod yn y man."
O Geidwad mwyn! dy gysgod dod
I'r teulu bach, di-nam,
A llanw Di y gwaglo wnaed
Ar ddiwrnod angladd mam!
Yr Ynys Gu.
(Bailey).
HWYR-GYSGODION! ciliwch enyd,
Nac amgeuwch fi yn awr,
Yr ynys acw, yn y pellder,
Mwy ni welaf pan ddel gwawr;
Eto, fy nychymyg genfydd
Lenyrch lle mao ffrindiau lu—
Lleni'r nos ymdaenant drosof—
Ffarwel iti, ynys gu!
Heno mae gwynebau siriol
Yn amgylchu'r aelwyd lân,
Pwy a leinw'r gadair freichiau?
Pwy arweinia'r hwyrol gân?
Adsain pell y clychau hwyrol,
Glywaf drwy y nifwl du,
Fel rhyw lais oddiwrth anwylion
Ffarwel iti, ynys gu!
Pan o gylch fy llestr unig,
Rhua'r tonau yn eu grym,
Minau'n chwilio am ryw ddeilen
Werdd, a rydd dangnefedd im';
Beth na roddwn am gael crwydro
Lle cartrefa ffrindiau lu,
Pellder a gryfha'r serchiadau—
Ffarwel i ti, ynys gu!
Dwy Delyneg
I.
AR lan yr afon loew
Mi welais flodyn gwyn,
Yn gwenu mewn boddineb
Dan gysgod tawel fryn,
Canai'r afon felus gân,
Dros y graian melyn, mân,
Suai'r awel fiwsig swyn,
Dawnsiai heibio'r blodyn mwyn.
Bywyd oedd yr afon
Loew, welais i,
Tithau oedd y blodyn
Wenai ger y lli:
Cartref oedd y cysgod
Rhag y gwres a' gwynt,
A'n dymuniadau ydoedd
Yr awel ar ei hynt.
Mae engyl haf yn chwareu,
Ar delyn dail y coed,
A thithau'n ysgafn sangu
Ar randir pymtheg oed:
Dy yrfa fyddo'n wen a phur,
Fel blodyn ger y dyfroedd clir.
II.
O! mae llongau
Dymuniadau,
Wedi cychwyn
Ddydd o ha,
Heibio Penrhyn
Gobaith Da.
Bleser-longau
Ewch ymlaen,
Boed eich hwyliau
Oll ar daen:
Ewch yn ysgafn
Dros y lli,
Chwim genhadon
Ydych chwi.
Ac os holir
Am eich hynt,
D'wedwch hyny
Yn nghlust y gwynt:—
"Mynd yr ydym
Dros y don
Gyda'r neges
Ddedwydd hon:
Elinora!
Ysgafn droed,—
Porthladd Prydferth
Ugain oed."
Bendith awen
Ar dy ben,
Byw i garu
A dyrchafu,
Gymru Wen!

Cartrefi gwynion Cymru!
Mor brydferth yw eu gwedd,
Dan gysgod bryniau oesol,
Dan aden dwyfol hedd."
Telyn fy Ngwlad.
Caneuon ein Gwlad.
MAWRYGWN ganeuon ein gwlad,
Llawenydd ac ymffrost ein tadau,
Grymuso eu breichiau i'r gâd,
A thanio eu serch wnai eu hodlau:
Anadlu yn gynhes o hyd,
Mae rhyddid o fewn ein halawon,
Gwladgarwch,-fu'n huno cyhyd,
A ddeffry yn swn eu hacenion.
Mae ysbryd y dewr Gymru gynt,
Drwy Ymdaith Gwyr Harlech yn treiddio,
A gwrando Llwyn Onn, ar ei hynt,
Dynn ddeigryn o lygad y Cymro:
Mae nodau'r Fwyalchen mor fwyn,
Ar hen Forfa Rhuddlan mor leddfol,
Merch Megan yn drylawn o swyn,
A Thoriad y Dydd yn llesmeiriol!
Tra phrydydd a cherddor mewn bri,
A Chymru yn caru ei defion,
Alawon ein cenedl ni
Anwylir yn nghalon y Brython:
Os cilio wnaeth rhyddid o'n plith,
Os chwenych ein gwlad ddarfu'r estron,
Na chaffed un gelyn hyd byth
Weld Cymru'n anghofio'i halawon.
Mawrygwn ganeuon ein gwlad!
A chadwn hwy byth mewn coffad:
Tra ton yn yr eigion, tra haul yn y nen,
Byw fyddo cerddi hen Gymru wen.
Llewelyn y Llyw Olaf.
(Ernest Rhys).
MOR brudd a gwelw oedd yr hwyr
A wyliai dranc ger Irfon draw;
Pan grwydrai'r ddraig o'r gogledd dir,
Pan ballodd nerth, pan gollai'r ffordd,
Yn mhell o ddolydd Arfon gu,
Y gelyn ddug ei ben mewn gwawd
I'w ffug-goroni ar furiau'r Tŵr.
Er hyn, ei galon gefaist ti,
Ei anwyl wlad, i'w chadw mwy,
O olwg byd, mewn distaw fedd,
Ac yno cwsg ei gledd, ond ef,-
Pan ddeffry telyn Cymru wen,
Fe ddeffry'r dewr yn swn ei thant.
Gwyrdd fo ei fedd! lle bynag cwsg,
Gerllaw Cwm Hir, neu'r dòn mewn hedd,
Ein holaf Lyw mewn olaf hun,
Gwyrdd fo ei fedd.
Hen wlad ei serch! os ydyw ef
Ers llawer oes, yn oer a gwyw,
Yr awen genfydd drwy y gwyll,
Ei holaf Lyw.
Difera'r delyn falm i'w glwy',
A'i diliau mêl, ond nodau prudd
Ddwyseiddia'r tant, a chwynfan mwy,
Ei hiraeth cudd.
I'r lan a'r mynor, gloew, clir,
Mewn anwyl gôf am enwog Lyw,
Boed clod Llewelyn yn ein tir,
Tra Cymro'n fyw.
Y Ddau Arwr.
PWY yw yr arwr? Pwy ddylai gael
Coronbleth anrhydedd am byth ar ei ael?
Mi wela'r Rhyfelwr yn ymdaith drwy waed,
Gan fathru teyrnasoedd fel llwch dan ei draed;
Ei folawd adseinir mewn dinas a thref,
A'r mynor tryloew a draetha'i glod ef:
Efe yw yr arwr! Efe sydd yn cael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael.
Mi wela'r Dyngarwr yn dyfod o draw
A chleddyf Gwirionedd yn loew'n ei law:
Ymdeithio, ymdrechu dros Iawnder y mae,
A chodi'r adfydus o ddyfnder ei wae:
O'i flaen mao Trueni: er hyny, o'i ol,
Daw blodau i wenu fel meillion ar ddol.
Ardderchog Ddyngarwr! pwy draetha ei oes?
A'i fynwes yn eirias gan gariad y Groes:
Mae llwybrau ei fywyd yn wyn a di-staen,
Ac erys ei enw pan doddo y maen!
Efe yw yr Arwr; efe sydd i gael
Llawryfon anrhydedd am byth ar ei ael!
Cyfoder y Faner i fyny.
BOED Baner wen Rhyddid yn chwifio'n y gwynt,
Diddymer caethiwed a gormes,
Ysbrydiaeth a glewder yr hen Gymry gynt,
Fel llanw fo'n chwyddo pob mynwes:
Mae angel gwarcheidiol gwladgarwch yn awr,
O aelgerth y clogwyn yn gwylio,
A heddwch yn gwenu drwy ddorau y wawr,
Tra baner wen Rhyddid yn chwifio.
Mae gweddi dynoliaeth yn esgyn i'r nef,
Ac adlais a leinw'r awelon,
Cyfiawnder a orfydd, ei gorsedd sy' gref,
Caiff Rhyddid deyrnwialen a choron;
Ymlidir cysgodion y fagddu o'r tir,
Mae trais yn ei garchar yn crynu,
Byw byth y bo Rhyddid, mawryger y gwir,
Cyfoder y faner i fyny.
Cyd-chwifiwn y faner i entrych y nen
Daw llwyddiant i wasgar ei wenau,
Mao cain dduwies addysg yn codi ei phen,
A sobrwydd yn sychu ei dagrau:
Hen gestyll trueni ddymchwelir i gyd,
Daw purdeb a moes i flodeno,
Ac ar ein mynyddau drwy oesau y byd,
Boed baner wen Rhyddid yn chwifio!
Cartrefi Gwynion Cymru.
CARTREFI gwynion Cymru!
Mor brydferth yw eu gwedd,
Dan gysgod bryniau oesol,
Dan aden dwyfol hedd:
Mor swynol yw y llethrau,
Lle chwery'r ieuainc wyn,
A'r doldir, llo'r ymdroella
Y ffrwd, fel delw swyn.
Cartrefi gwynion Cymru!
Ar eu haelwydydd glân,
Cyferfydd pur deimladau
Fin hwyr, o gylch y tân;
Ceir yno fwyn alawon,
A llawer ymgom fad,
Ac yno y mae gorsedd,—
Serch-orsedd mam a thad.
Cartrefi gwynion Cymru!
Mor esmwyth ar eu tro,
Y daw awelon sanctaidd
Y Sabboth dros y fro:
Mae clychau'r llan yn seinio
A'u hadlais yn y glyn,
Ac adar mân yn pyncio
Ar wawr y bore gwyn.
Cartrefi gwynion Cymru!
Boed gwynder rhin a moes,
Yn aros byth i'w cadw
Yn ddedwydd a di-loes:
Boed blodau'r haf yn tyfu
Ar hyd eu muriau mâd,
A doed pob cartre i barchu
Ein Duw, ein hiaith, a'n gwlad!
DAN gysgod y castanwydd clyd,
Mae gefail gôf y plwy',
Y gôf,—gwr cadarn ydyw ef,
'Does neb a'i nerth yn fwy;
A gewynau ei gyhyrog fraich,
Haiarnaidd ydynt hwy.
Ei wallt sy'n grych, yn ddu, a llaes,
Ei wedd o felyn liw,
Ei rudd yn llaith gan onest waith;
Enilla fodd i fyw,
Fe sylla'n wyneb yr holl fyd,
Ac yn nyled neb nid yw.
Drwy'r wythnos gron, o fore i hwyr,
Chwi a glywch ei fegin fawr,
Ergydio mae ei forthwyl trwm,
Yn gyson bob yr awr,
Fel seiniau hyfryd cloch y llan
Pan yr â yr haul i lawr.
A'r plant o'r ysgol ar eu hynt,
Ymgasglant o gylch y ty,—
Hwy garant weld y fflamawg dân,
A'r fegin ddofn ei rhu,—
Gan ddal y gwreichion eirias, chwim,
Fel ûs sydd yn esgyn fry.
Aiff gyda'i fechgyn tua'r llan,
Pan y delo'r Sul a'i swyn,
A gwrendy y gwasanaeth dwys,
A llais ei enethig fwyn,
Yn canu'n beraidd yn y côr,
Fel yr eos yn y llwyn.
Mor debyg yw i lais ei mham!
Sy'n awr yn ngwlad y dydd,
Meddylia am dani'r fynud hon,
Er bod mewn beddrod pridd,
A sych y deigryn gloew, mawr,
A lithra i lawr ei rudd.
Mawl fo i ti, fy nidwyll ffrynd,
Am dy wersi gonest, gwir,
Fel hyn wrth danllyd ffwrn y byd,
Llafuriwn dan ein cur,—
Fel hyn oddiar yr einion daw
Pob gwaith a meddwl pur.
Y Faner Wen.
DAW gwenau mwyn y gwanwyn,
Ar ol y gauaf prudd,
Ac wedi'r nos ystormus daw
Yn dirion, doriad dydd:
Ar ol y tonnau geirwon,
Daw'r hafan deg ei gwawr,
A boreu'r fuddugoliaeth ddaw
Ar ol y frwydr fawr:
Am hyny, ymwrolwn
Dan faner dirwest fâd,
Yn ngrym arfogaeth loew'r gwir,
Yn enw Duw a'n gwlad:
Os cwympodd y gwroniaid,
Ni phallodd nerth eu ffydd,
A'r cof am danynt erys byth
Yn nghalon Cymru Fydd.
O lawer anedd unig,
Fu'n gartref dedwydd gynt,
Ochenaid drom o fynwes siom
A grwydra gyda'r gwynt:
Mae'r awel leddf a sua
Dros fedd y meddwyn tlawd
Yn dweyd yn brudd, bob nos a dydd,
Fod hwnw ini'n frawd:
Am hyny, cydymunwn
Yn erbyn Bacchus fawr,
A mynwn gael ei gadarn gaer,
A'i uchel rwysg i lawr:
Yn enw gwyn dyngarwch,
Yn ysbrydoliaeth ffydd,
Ymlidiwn elyn dyn a Duw,
A dirwest gario'r dydd.
Awn a Meddianwn.
PA hyd caiff Bacchus—greulon deyrn—
Ar orsedd rhwysg yn llyw barhau?
Pa hyd yr estyn ei deyrnwialen ddu,
Gan wasgar melldith, poen, a gwae?
A glywch chwi yr udgorn yn galw i'r gad,
Yn erbyn y gelyn, ei ormes, a'i frâd:
Ddirwestwyr arfogwch,
Eich rhengau byddinwch,
Ewch a gorchfygwch,—meddienwch y wlad!
Ymlaen! meddai adlais o fil o aelwydydd,
Ymlaen! medd Dyngarwch yn groew ei lef;
Ymlaen! meddai'r dagrau ar rudd yr amddifad,
Ymlaen, medd y ddaear;—ymlaen, medd y nef!
Awn a meddianwn randiroedd y gelyn,
Dewrder fo'n chwyddo pob mynwes yn awr,
Rhuthrwn fel glewion, a'n harfau yn loewon,
A mynwn gael Medd-dod a'i ormes i lawr:
Darniwn ei deyrnas, ei rwysg a'i alanas,
Mathrwn ei orsedd yn llwch dan ein traed,
Ac uwch yr adfeilion, cydfloeddiwn y gonewest;
Awn a gorchfygwn—meddianwn y wlad!
Yr Hen Fanerau.
YMDEITHIAI'R fyddin tua'r gad
Heb fwlch o fewn ei rhengau,
Y rhyfel—gân a lanwai'r wlad,
A chwyfiai y banerau:
Y milwr syllai'n falch ei fron,
Ac ar y faner beunydd,
Fe welai'n glir y frawddeg hon,—
"Gwell angau na chywilydd."
Mae ysbryd rhyfel yn deffro,
A'r alwad i'r gad yn gref,
Magnelau o'r pellder yn rhuo,
A'r mwg yn dyrchafu i'r nef.
Sua'r bwledau,
Fflachia'r cleddyfau,
A'r llymion fidogau
A drochir mewn gwaed.
Catrodau a floeddiant,
Y meirch a garlamant,
A'r dewrion a fathrant
Yn sarn dan eu traed.
Ond nos a ddynesa,
A'i mentyll ollynga
I guddio'r olygfa
A'r faes y gâd.
Daw'r fyddin adre—adre'n ol,
Ond bylchog yw ei rhengau,
Mae llawer milwr dewr ei fron
Dan leni oerion angau!
Ond chwyfia'r benyr yn y gwynt,
Ar flaen y fyddin eto,
Ac er mai llwyd a drylliog y'nt,
A gwaed yn eu llychwino,—
Eu parchu wneir o fewn y tir,
A'u hurddas byth ni dderfydd,
A thystio wnant oddiar y mur,—
"Gwell angau na chywilydd!"
Yr hen fanerau gadwn ni,
Yn enwog gôf—arwyddion,
Am bur wladgarwch Cymru Fu,
Tra'n ymladd a'r gelynion.
A chofiwn tra yn tynu cledd
Dros ryddid ac iawnderau—
Na staen cywilydd gwell yw bedd—
Yw iaith yr hen fanerau!
Y Mwnwr.
(The Miner).
I.
I LAWR, i lawr, yn y mwnglawdd mawr,
O olwg y byd yr af,
O doriad dydd hyd yr hwyrnos brudd,
A byr yw y gorphwys gaf.
Y disglaer haul a oleua'r nen,
Drwy'r hafddydd teg ei wawr,
Ond oer ei wedd, fel y tywyll fedd,
Yw dyfnder y mwnglawdd mawr.
I lawr, i lawr, yn y mwnglawdd mawr,
Lle na ddaw awelon mad,
O fore i hwyr, ac ychydig wyr,
Am danaf o fewn y wlad.
II.
Ond ing a braw dry y fron yn friw
Pan ddaw'r danchwa ar ei thro,
A chwmwl prudd a orchuddia'r dydd
Ac ochain a leinw'r fro-
Leinw'r fro.
III.
Mor wych fyddai cael y tiriondeb hael
I ddangos ei hun bob awr,
At y gweithiwr sydd, dan gysgodau prudd,
Yn nyfnder y mwnglawdd mawr,
Yn nyfnder y mwnglawdd mawr.
IV.
I lawr, i lawr, yn y mwnglawdd mawr,
Lle na ddaw awelon mad,
O fore i hwyr, ac ychydig wyr
Am danaf o fewn y wlad.
I lawr, i lawr,
Yn y dwfn, dwfn lawr—
Dwfn lawr!
Y Bardd a'r Cerddor.
R'WYF fi yn caru'r prydferth,
Fy mynwes lawenhâ,
Tra'n syllu ar addurniadau'r llwyn,
A heirdd rosynau'r hâ:
Mae llu yn hoffi mawredd
Y mynydd serth a'r môr,
Ond y tlws a'r cain a garaf i
Yn nghreadigaeth Ior.
Cerddoriaeth garaf i,
A miwsig i fy mron,
Yw sû yr awel fwyn,
A murmur lleddf y don:
Caiff eraill ddilyn ffawd,
A cheisio bydol fri,
Ond beunydd ar fy rhawd,
Cerddoriaeth garaf i.
Carwn bur farddoniaeth Anian,
Canwn gerddi'r wawr a'r nos,
Triged ysbryd cân ac awen,
Oes y byd yn Ngwalia dlos.

"A gwelwn dref Caersalem,
A'i theml enwog gynt."
Telyn y Cysegr.
Bethlehem.
ANIAN hunai mewn dystawrwydd,
Taenai'r nos ei mantell laes,
Gwylio'r praidd hyd wawr y cyfddydd
Wnai bugeiliaid yn y maes
Pan dywynai claer oleuni
Nes gwyleiddio'r ser i gyd,
Ac y canai engyl Gwynfa
Ar ganllawiau'r nefol fyd,—
Gogoniant! Gogoniant!
Treiddia'r gân ag uchel lef,
Daeth Duw ei Hun i natur dyn,
Addolwn,—molwn Ef.
Uwch y chwyddai'r gân folianus,
Clywch y mawl a leinw'r nen,
Ceidwad anwyd,—Mab a roddwyd,—
Boed y goron ar ei ben!
Awdwr bôd,—Tywysog bywyd,—
Ddaeth i brynu dynolryw,
Syned nef—molianed daear,—
Caned holl angylion Duw!
Gogoniant! Gogoniant!
Treiddia'r gân drwy froydd nef,
Daeth Duw ei Hun yn Fab y Dyn,
Addolwn, molwn Ef.
Darfu'r gân, a'r cor esgynodd
I orielau Gwynfa Duw,
Ond mae'r adsain eto'n aros
Eto'n disgyn ar ein clyw:
A phan fyddo'r dorf waredig
Wedi dyfod oll yn nghyd,
Cenir anthem felus Beth'lem
Draw ar fryniau gwlad yr hedd:—
Gogoniant! Gogoniant!
Treiddia'r gân i eithaf nef,
Daeth Duw ei Hun i gadw dyn,
Addolwn,—molwn Ef.
Noswyl y Cenhadwr.
MELUS yw'r cof am hen gyfrinachau
A'r aml gynlluniau a luniem yn nghyd,
Caled fu'r daith dros fryn anhawsderau,
A deifiol oedd siomiant i'r fron lawer pryd:
Fe gliriodd y nen,—a thithau a lonwyd,—
Gwregysaist dy hun i ymdrech deg, faith,
Llafuriaist fel gwron, ond ebrwydd y'th alwyd,
I noswyl y nef, ac i derfyn dy daith!
Cydgan yr Ysgol Sul.
Y NOS,—nos anwybodaeth ddu—
A'i hedyn llaes orchuddiai Gymru Fu,
A'r gwylwyr blin ar gaerau Seion brudd
Weddïent am y wawr,—
Hiraethent am yr awr,—
Awr oleu y deffroad
I droi y nos yn ddydd.
Gwrandawyd y weddi: cyfododd y wawr!
A'r Ysgol Sabbothol oleulan sy'n awr
Yn gwasgar goleuni Efengyl y Groes,
Ymgiliodd y ddunos,—tywyllwch a ffoes!
Y PLANT:—
Ar fronau hon dysgasom
Yr Enw mwya'i fri,
Yr Hwn a ddwedodd gynt,—" Gadewch
I blant dod ataf Fi."
HENAFGWYR:—
Fel seren, hon dywysodd
Ein meddwl ato Ef,
Ac ar dywyllwch tew y glyn
Hi roes oleuni'r nef.
Yn nhreigliad blynyddau ni welwa ei phryd,
Ond erys fel angel, yn ieuanc o hyd:
Y nef a folianwn, i'r Iôr rhown fawrhad,
Am addysg fendigaid Prif Ysgol ein gwlad.
Golomen Wen y Diluw.
GOLOMEN wen y diluw!
Uwchben y dyfnder mawr,
Yn chwilio am fyd newydd,
I roi ei throed i lawr:
Ond ar ei chrwydriad unig,
Ni welai lwyn na dôl,
A dychwel yn flinedig
A wnai i'r arch yn ol.
Golomen y diluw! yn ngoleu dy hynt,
Fe welwn, mewn gofid,
Fod arch yr addewid
Yn deg ar y dyfroedd—fel cynt.
Golomen wen y diluw!
Mor debyg y'm i ti,
Yn crwydro—crwydro'n unig
Uwchben y dyfnfawr li:
Ond ar adenydd gobaith,
Ehedeg wnawn yn mhell,
Draw, draw dros donnau geirwon,
I gol y "gobaith gwell:"
Golomen y diluw! yn ngoleu dy hynt,
Fe welwn, mewn gofid,
Fod arch yr addewid,
Yn deg ar y dyfroedd—fel cynt.
Y Ddinas Sanctaidd.
(The Holy City)[4]
UN nos, a mi yn huno,
Daeth breuddwyd ar ei hynt,
A gwelwn dref Caersalem,
A'i theml enwog gynt:
Mi glywn y plant yn canu,
Ac fel y chwyddai'r llef,
Meddyliwn glywed engyl
Yn ateb yn y nef:
Jerusalem! Jerusalem!
Dyrchafa'th byrth â chân,
Hosanna drwy'r uchelion,
I Frenhin Seion lân.
Ac yna'r breuddwyd newid wnaeth
Pob heol aeth yn fud,
Dystawai'r llon Hosanna
A chân y plant i gyd:
Yr haul dywyllai yn y nen,
Y dydd oedd oer a syn,
A gwelwn gysgod—cysgod Croes,
Oddiar ryw unig fryn:
Jerusalem! Jerusalem!
O'r nef yr engyl gân,
Hosanna drwy'r uchelion,
I Frenhin Seion lân.
Ond ymaith äi'r olygfa hon,—
Byd newydd welais i,
A gwenai'r ddinas sanctaidd
Gerllaw y dysglaer li:
Goleuni Duw oedd ar ei gwedd,
Ei phyrth oedd led y pen,
A chroesaw ini fyned
I fewn i'r gaerfa wen;
Heb eisiau lloer, na ser y nos,
Na haul a'i wên ddi-lyth,—
Caersalem newydd ydoedd,
Y ddinas bery byth.
Jerusalem! Jerusalem!
Y nos a ffodd o'i sedd,
Hosanna drwy'r uchelion,
Hosanna i Frenhin hedd!
Y Tadau Pererinol.
I. GLANIAD Y "MAYFLOWER".
(Mrs. Hemans)[5]
YMDORAI'R tonau brigwyn, erch,
Ar fynwes oer y graig,
A swn y storom ar y traeth
Adseiniai rû yr aig.
Mor ddu a phruddaidd oedd y nos,
Deyrnasai dros y tir,
Pan laniai'r Pererinion llesg,
Ar ol eu mordaith hir.
'Roedd yno rai a'u gwallt yn wyn,
A rhai mewn mebyd mad,
Paham crwydrasant hwy mor bell
O'u genedigol wlad?
Beth geisient hwy ar estron dir,
A'i perlau teg eu gwawr?
Na, ceisio'r oeddynt le i'w ffydd
I roi ei throed i lawr.
Byth gelwir hwn yn sanctaidd dir
Lle cysegredig yw,
Pwrcaswyd yno ryddid dyn
I wasanaethu Duw.
Y Tadau Pererinol.
II. BRYN Y BEDDAU.
(Maes Macpelah y Pererinion).
Fan yma y gorwedd y Tadau cu:
A phan ddelo'r hafddydd gwyn,
A'i euraidd wên i adloni'r byd,
Awn, safwn ar ben y bryn.
Fan yma, daw pelydr cyntaf y wawr,
Fan yma daw'r adar a'u cerdd,
A'r haul wrth fynd lawr, dros yr eigion mawr,
Oreura yr oror werdd.
Mae ysbryd y Tadau yn aros o hyd:
Mae'n crwydro yr ardal dlôs,
Mae'n gwarchod llwch y dewrion a fu,
Gyda sanctaidd ser y nos.
Mae'n gwylio gorweddle dawel y saint,
Ac erys i'w gwylio hwy,
Nes byddo yr aig oddeutu y graig
Yn peidio cynhyrfu mwy!
Y Tadau Pererinol.
III. PA LE Y MAENT HWY?
Colofnau teyrnas nef,
Dan bwys pob storom gref,
Pa le maent hwy?
I'w marwol ran boed hedd!—
Goleuni pur eu gwedd,
Nis gall y tywell fedd
Ddiffoddi mwy!
Chwi demlau heirdd ein gwlad,
A sefwch lle bu traed.
Ein tadau cu:
Y gwir fuont hwy yn hau,
Eu zel yn erbyn gau,
A'u puredd fo'n parhau
Byth ynoch chwi!
Breuddwyd Paradwys.
(A Dream of Paradise)[6]
GYNT, yn yr hwyrddydd tawel,
Breuddwydiais freuddwyd per,
Mi dybiwn weld y Wynfa glaer,
Dan wawl y gloewon ser:
Ac yn y cain ogonedd
Fe safai cerddor glan,
A thrwy dawelwch dwfn y nos,
Fel hyn yr oedd ei gân.
"Arglwydd y nefoedd fry,
Graslawn a thrugarog,
Rho wawl dy gariad cu,
O Dad trugarog,
Arglwydd, nerthol a sanctaidd,
Rho wawl dy gariad cu,—
Dy gariad cu.
Ond yn fy mreuddwyd melus,
Mi glywais adsain loes,—
Sibrydion poen a gofid,
A chwerwon droion oes,—
Gruddfanau yr amddifad,
A chŵyn y tlawd a'r prudd,—
Ond cân y dysglaer angel
A droes y nos yn ddydd.
Draw, draw, yn y wlad ddigwmwl,
Lle saif y dyrfa glaer,
Tu fewn i byrth Paradwys,
A gwlad y delyn aur,—
Mae llais y nefol gerddor
Yn treiddio drwyddynt hwy,—
Tra haul a ser yn machlud,
Byth i gyfodi mwy.
Y Tair Gardd.
I.
DRAW, draw yn mhell ar fore cain,
A'r cread oll yn ieuanc ac yn hardd,
Heb gysgod gwae, a'r blodau heb y drain,—
Yr Arglwydd Ior a blannodd ardd.
Eden ddedwydd! Wynfa burlan!
Cartref diniweidrwydd dyn:
Lle murmurai ffrydiau gloewon,
Lle sibrydai yr awelon
Gyfrinachau Duw ei hun.
"Yn Eden,"—cofir hyny byth,―
(Er iddi hir ddiflannu),
"Bendithion gollwyd rif y gwlith,"—
Ond aros wna er hyny,—
Aros drwy yr oesau i gyd,
Er blinderau anial fyd,
Aros byth mae'r adgof hardd,—
Yr Arglwydd Ior a blannodd ardd.
II.
Daeth y nos dros frig Olewydd,
Nos bradychu'r Bywyd pur,
Pan yn nwysder Gethsemane
Plygai'r Iesu dan ei gur.
Ond gobaith o'r dyfnder a dardd,
Ac anthem o'r gofid a gaed,
"Wrth gofio'i ruddfanau'n yr ardd,
A'i chwys fel defnynau o waed":
Wynebodd y loes yn ddigryn,
A nos y bradychu o'i fodd,—
"Pa dafod all dewi am hyn,
Pa galon mor galed na thôdd."
III.
Y bore ddaeth,—gwawr wen y trydydd dydd,
A dyma iaith y nef-genhadon hardd,
Yr Arglwydd a gyfododd—daeth yn rhydd,
A gwag yw'r bedd,—beddrodd yn yr ardd."
O newydd fedd yn ymyl Calfari!
O hono cododd Bywyd dynolryw:
"Enillodd hwn yn ol "yn ol i ni,
Mae'r Hwn fu farw drosom eto'n fyw.
Mewn byd heb gysgod bedd,
Y Wynfa bur, ddi—loes,
Bydd côf am drydydd dydd a gardd—
Yr ardd gerllaw y Groes!
Bedd yr Iesu.
DAETH bore'r "trydydd dydd," a gwridai'r wawr wen dlôs,
Mewn gwisgoedd porphor, cain, drwy leni trwch y nos,
Ond cyn i haul y cread gyfodi i'w freiniol sedd,
Haul claer Cyfiawnder godai o gôl y tywell fedd.
Uwchben y fan gorweddai Gwaredwr mawr y byd,
Y gwragedd tyner safent mewn agwedd ddistaw, fud;
Yr heilltion ddagrau dreiglent yn gyflym lawr eu grudd,
Fynegent iaith y teimlad, a chwyddai bronau prudd.
I'r llanerch gysegredig, fy awen, hed ar hynt,
Disgrifia yr olygfa a gadd y gwragedd gynt;
Y pwysfawr faen dreiglesid i ffwrdd oddiar y bedd,
Ac arno safai angel—fel mellten oedd ei wedd;
Mae'r llian main a'r napcyn yn hollol yn eu lle,
Ond sanctaidd gorff yr Iesu,—pa le dodasid E'?
Yr angel gwyn atebai, mewn geiriau llawn o hedd,—
Yr Arglwydd a gyfododd, 'does yma ond ei fedd.
Nis gallai teyrn marwolaeth ddim ei gaethiwo Ef,
Drwy ymerodraeth Angau gwnaeth brif-ffordd fry i'r nef:
Pan gauai dorau'r beddrod ar Geidwad euog ddyn,
Agoriad porth marwolaeth orweddai wrth ei glun:
A phan y daeth y "boreu" a drefnodd arfaeth Iôr,
Fe glywid trwst yr allwedd,—agorai'r rhydlyd ddôr;
Yr adsain a ymledai fel tòn yn dilyn tòn,—
Cyhoeddi angladd Angau a wnai yr adsain hon!
Yn nrych y beddrod gwag, canfydda llygad ffydd,
Rag—gynllun o'r olygfa foreu'r olaf ddydd;
Bedd gwag ein cadarn Brynwr ddywed yn ei iaith,
Mai gwag y diwrnod hwnw fydd beddau'r ddaear faith:
Uwchben hen garchar Angau adseinia udgorn Duw,
Y dorau a agorir,—daw'r meirw oll yn fyw,
A theulu'r nef esgynant i dawel gartref hedd,
I dreulio tragwyddoldeb mewn gwlad heb ynddi fedd.
Gostyngeiddrwydd.
"Ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig."
O BRYDFERTH ostyngeiddrwydd,
Er ceisio bod dan len,
Dy degwch byw, mil harddach yw
Na thlysni'r lili wen:
Dy geinder ni ddiflanna,
Anfarwol ydyw ef,
Tydi yw gwisg y puraf sant,
A'r angel yn y nef.
O werthfawr ostyngeiddrwydd,
Rhagflaenor wyt o hyd,
I ffafr, anrhydedd, bywyd, gras,
A phobpeth goreu'r byd:
Dy lwybr cul arweinia,
Dan fryniau balchder dyn,
A'r hwn a'i lawr, a ddaw yn fawr
Yn ngolwg Duw ei hun.
O ddwyfol ostyngeiddrwydd,
O'r nef y daethost ti,
Hyd risiau darostyngiad Crist,
Pan ddaeth i'n daear ni:
Ac yn dy gwmni nefol
Esgyna dynolryw,
O ddyfnder gwae i'r fan lle mae
Yr Iesu byth yn byw.
Sancteiddio'r Groes.
(Hemans)
DAD! yr Hwn pan "ddaeth yr awr"
Yn Gethsemane draw
Anfonaist nerth i'r Iesu mawr—
Moes im' dy law.
Er mwyn ei ing, a'i waedlyd gur,
Llareiddia'n awr fy loes;
Ond os rhaid dioddef ddyddiau hir—
Sancteiddia'r Groes!
Tydi! yr Hwn pan ddaeth yr awr"—
Awr talu dyled dyn,
A blygaist i'r Ewyllys fawr—
Gan roi dy Hun!
O ddwyfol ddioddefydd, boed
Dy Ysbryd, yn mhob loes,
I'm nerthu i ddilyn ôl dy droed—
Sancteiddia'r Groes!
Hwyrgan ar y Mor.
DARFU'R dydd, a daeth y cyfnos
I orchuddio'r ehang fôr,
Ninnau ganwn-melus ganwn-
Gân o fawl i'n Harglwydd Ior
Am ein cynhal, am ein cadw,
Molwn Dduw ag uchel lef,
Ef a'n dalio nes i'n lanio
Draw ar draethau aur y nef.
Wedi colli gwen yr heulwen,
Wedi cilio goleu'r dydd,
Ni fachluda haul ein gobaith,
Ac ni lwfrha ein ffydd;
Yn yr hwyr gwnawn lawen ganu,
Trown yr hwyrnos yn fwynhad,
Ac yn ngoleu'r addewidion
Hwyliwn tua thy ein Tad.
Plant y Dydd.
CODI mae y wawrddydd
Ar ein hanwyl wlad,
Addysg, moes a chrefydd—
Dyna ei mawrhad:
Ymaith o'n gororau
Aed y ddunos brudd,
Gyda'r newydd foreu
Lledwn ein banerau,
Byddwn blant y dydd.
Awn i faes y frwydr,
Gwisgwn arfau ffydd—
Arfau y goleuni,
Byddwn blant y dydd!
Hen elynion Rhinwedd
Wibient drwy ein tir,
Giliant i ddinodedd
Rhag y wawrddydd glir:
Lle bu corsydd duon,
Tyfa gwellt a brwyn,
Daw y gwyllt anialwch,
O dan law Prydferthwch
Eto'n gartref swyn.
Awn i faes y frwydr,
Gwisgwn arfau ffydd—
Arfau y goleuni,
Byddwn blant y dydd!
Udgorn y deffroad
Gyffry fryn a dôl,
Geilw ni i godi'n
Hanwyl wlad yn ol,—
Codi moes a chrefydd,
Codi Cymru Fydd,
Fyny tua'r nefoedd,
Fel ein hen fynyddoedd,
Byddwn blant y dydd.
Awn i faes y frwydr,
Gwisgwn arfau ffydd—
Arfau y goleuni,
Byddwn blant y dydd!
Sabbothau Bywyd.[7]
(Henry Vaughan).
DELWEDDAU disglaer ydynt
O'r nef-orphwysfa wir,
A grisiau aur i esgyn
I fryniau'r sanctaidd dir:
Llusernau claer i'n harwain
Drwy dywell nos y byd,
Ac yn y maith anialwch—
Cysgodion melus, clyd:
Mynyddoedd y perlysiau,
Lle crwydra engyl hedd,
Pelydrau o ogoniant
Drwy gymyl du eu gwedd;
Gorsafoedd ar ein gyrfa,
Lle ceir y manna cudd,
Allanol byrth Paradwys—
Cynteddau gwlad y dydd'
Y Porthladdoedd Prydferth.
Y PRYDFERTH Borthladdoedd sy draw:
Ceir yno angorfa gysurus,
Un storom fygythiol ni ddaw
I'n blino, na gwyntoedd ystormus.
Yr awel bersawrus, a chwyth
Dros fryniau gwynfäol y nefoedd;
A'r cefnfor sy dawel dros byth,
O amgylch y prydferth borthladdoedd.
Os pell yw y fordaith a blin,
Os rhaid in' wynebu tymhestloedd;
Angorwn mewn byth-hafaidd hin,
Cyn hir yn y Prydferth Borthladdoedd.
Hoff Feibl ein Gwlad.
I.
DROS ganrif yn ol, pan godai y wawrddydd,
Cychwynai genethig o fwthyn y glyn,
Pell oedd ei hymdaith dros fryniau Meirionydd
Nes cyrhaedd y dref ar finion y Llyn:
Croesi y gwaenydd dringai y rhiw,
A'i bryd ar bwrcasu, darllen, a meddu,
Glan Feibl ein Duw,
Glan Feibl ein Duw.
II.
Yn dyner a mwyn, cyflwynodd ei neges
I'r gwr oedd yn hoff gan Gymru a'i phlant,
Adroddai ei chwyn yn syml, dirodres,
A phrudd-der a ddaeth i lygad y sant:
'Doedd ganddo 'run Beibl ar gyfer y fun :
Ond dagrau orchfygodd, ac iddi estynodd
Ei Feibl ei hun,
Ei Feibl ei hun.
III.
Dychwelodd yn llon dros fryniau Meirionydd,
A'i Beibl a ddug i'r bwthyn bach clyd,
A dilyn ei hynt wnai'r meddwl ysblenydd,
Am Feibl i bawb o bobl y byd.
Cymru gadd Feiblau, heirddion a rhad,
Daeth miloedd i ddysgu, darllen, a pharchu,
Hoff Feibl ein gwlad,
Hoff Feibl ein gwlad.
IV.
Aeth canrif i ffwrdd, a'r hedyn a dyfodd
Ar fryniau ein gwlad a ddaeth yn bren mawr,
Cymdeithas y Beiblau sy'n estyn ei changau
I bellaf ororau y ddaear yn awr.
A cherdded yn mlaen wna tyner goffad
Y lodes dirionwedd roes fri ac anrhydedd,
Ar Feibl ein gwlad,
Hoff Feibl ein gwlad!
DIWEDD.
CAERNARFON:
Cyhoeddedig gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.).
Swyddfa'r "Cymru."

Nodiadau
[golygu]- ↑ The Sunbeam, Felicia Hemans
- ↑ Poems That Every Child Should Know—The Village Blacksmith; Henry Wadsworth Longfellow ar Wikisource en
- ↑ Erthygl yn egluro'r gerdd wreiddiol ar Wikipedia en
- ↑ The Holy City gan Frederick Weatherly ar Wikisource en
- ↑ The Landing of the Pilgrim Fathers in New England gan Felicia Hemans ar Wikisource en.
- ↑ A Dream of Paradise (Once in the evening twilight) gan Claude Littleton ar wefan Hymnary
- ↑ Son-days (Henry Vaughan)
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.