Neidio i'r cynnwys

Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/AR gyfer heddyw'r bore

Oddi ar Wicidestun
DEFFROWN, Deffrown i ganu'n ffraeth Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
CYDGANWN i'r Gogoned



CAROL 17.

Mesur—MENTRA GWEN.

AR gyfer heddyw'r bore, 'n faban bach, 'n faban bach,
Y ganwyd Gwreiddyn Jesse, yn faban bach.
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Sina',
Yr Iawn gaed ar Galfaria, 'n faban bach, 'n faban bach,
Yn sugno bron Mareia, 'n faban bach.

Caed bywiol Ddwfr Ezeciel, ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Fessia Daniel, ar lin Mair;
Caed Bachgen doeth Esaia,
'Raddewid ro'ed i Adda,
Yr Alpha a'r Omega, ar lin Mair, ar lin Mair,
Mewn côr y'Methle'm Juda, ar lin Mair.

Gorphwyswch bellach, Lefiaid, cafwyd Iawn, cafwyd Iawn
Nid rhaid wrth anifeiliaid, cafwyd Iawn.
Diflannu wnaeth y cysgod,
Mae'r Sylwedd gwedi dyfod,
Nid rhaid wrth ŵyn a bychod, cafwyd Iawn, cafwyd Iawn
Na theirw na thurturod, cafwyd Iawn.

Ystyriwn gariad Trindod, o'u gwir fodd, o'u gwir fodd,
Yn trefnu ffordd y cymmod, o'u gwir fodd;

Y Tad yn ethol Meichau,
Y Mab yn foddlon dyodde',
A'r Ysbryd Glân â'i ddoniau, o'u gwir fodd, o'u gwir fodd
Yn tywys Seion adre', o'u gwir fodd.

Diosgodd Crist ei goron, o'i wir fodd, o'i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion, o'i wir fodd;
I blygu ei ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddyoddef dirmyg llidiog, o'i wir fodd, o'i wir fodd,
Er codi pen yr euog, o'i wir fodd.

O cofiwn Gethsemane, lle bu ef, lle bu ef
Yn chwysu'r gwaed yn ddagrau, lle bu ef;
Ac am y flangell greulon
Yn arddu cefn y Cyfion
Ar hyd heolydd Seion, lle bu ef, lle bu ef,
A'i gnawd yn gwysi hirion, lle bu ef.

Hawdd olrhain ei gerddiad, hyd y llys, hyd y llys,
Gan lwybr coch orlifiad, hyd y llys,
Lle cafodd Iesu cyfion
Ei watwar gan elynion,
A tharo'i wyneb tirion, yn y llys, yn y llys,
Er dirmyg ar ei berson, yn y llys.
 
O'r llys at orsedd Pilat, er ein mwyn, er ein mwyn;
Taenellwyd gwaed y Cymmod, er ein mwyn;
Lle bu y Duw anfeidrol
Yn goddef barn angeuol
Gan ei greadur meidrol, er ein mwyn, er ein mwyn,
Yn fud fel caeth troseddol, er ein mwyn.

O dacw'r Oen mewn dalfa, er ein mwyn, er ein mwyn,
Yn esgyn pen Calfaria, er ein mwyn,
I ddyoddef Dwyfol loesion,
Ar bren y groes rhwng lladron,
Y bicell fain a'r hoelion, er ein mwyn, er ein mwyn,
A cholli gwaed ei galon, er ein mwyn.

Gorweddodd yn y beddrod, er ein mwyn, er ein mwyn,
I dynu'r damp o'i waelod, er ein mwyn;

Yn awr mae ar ei orsedd,
Yn cynnyg rhad drugaredd,
Maddeuant a thangnefedd, er ein mwyn, er ein mwyn,
I'r adyn mwyaf ffiaidd, er ein mwyn.

Cyfiawnder a foddlonwyd, waith ei Iawn, waith ei Iawn,
A'r ddeddf a anrhydeddwyd, waith ei Iawn;
Mae uffern fawr yn crynu,
A'r durtur bêr yn canu,
A Duw a dyn yn gwenu, waith ei Iawn, waith ei Iawn,
Mewn hedd y'mherson Iesu, waith ei Iawn.

Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt,
I 'mofyn am y Noddfa, fel yr wyt;
I ti'r agorwyd ffynon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon; fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hyny tyr'd yn brydlon, fel yr wyt.

Nodiadau

[golygu]