Neidio i'r cynnwys

Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/CYD-GANED dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth

Oddi ar Wicidestun
GAN ini fod trwy ras yn fyw Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
DEFFROWN, Deffrown i ganu'n ffraeth



CAROL 15.

Mesur—DIFYRWCH GWYR ABERFFRAW.

CYD-GANED dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth,
Daeth trefn rhagluniaeth i'r goleuni,
A chân Haleluia o fawl i'r Gorucha',
Messia Judea heb dewi:
Molianwn o lawenydd, gwir ydyw bod Gwaredydd,
Fe anwyd Ceidwad ini, sef Crist y Brenin Iesu,
Cyn dydd, cyn dydd, yn Meth'lem yn ddi gudd,
Y caed Gwaredydd ar foreuddydd, O wele ddedwydd ddydd.

Caed Iesu mewn preseb, Duw Tad Tragywyddoldeb,
Yn ol y ddiareb o'i herwydd;
Haul Mawr y Cyfiawnder yn myd y gorthrymder,
Yn faban bach tyner mewn tywydd;
Hwn Ydwyf, yr Hwn Ydwyf, yn sugno bronau'r wyryf,
Gwir Awdwr pob rhyw anian tan adwyth hin ardd Eden,
Y Gair, y Gair yn gnawd, ar liniau Mair,
A chilwg Pharoah yn gosod arno i'w buro yn y pair.


Fe anwyd ein Harglwydd o deilwng had Dafydd,
I ddyoddef pob gw'radwydd, gwnawn gredu;
Bradychu'r Gwaed Gwirion, gan un o'i ddysgyblion,
Sef, Judas, ffals galon heb gelu;
Pa reswm dal yr Iesu, pa achos ei fradychu,
Collfarnu Duw Jehofa, wnaeth dynion gwael ei doniau,
Mab Duw, Mab Duw, dan ddirmyg dynol ryw,
Mewn poen a dolur, Cynnaliwr natur pob rhyw greadur byw.

Ein Meichiau a'n Meddyg, dan fflangell Iuddewig,
Ar agwedd un diddig yn ddyoddef,
A'i farnu gan Pilat, a'i wisgo mewn 'sgarlad,
Gan ddynion dideimlad, rhaid addef;
A phlethu draenen bigog, yn goron annhrugarog,
A'i gosod mewn modd creulon ar ben Iachawdwr dynion,
Fel hyn, fel hyn, y gwasgwyd Iesu gwyn,
O dan arteithiau, ein mawrion feiau, i boenau pen y bryn.

Ei gymhell mewn dirmyg i gario'r groes bwysig,
A'i gefn yn friwedig, afradwyr;
Rho'i Mab y Jehofa i ddirmyg Calfaria,
Dan lwyth o bechodau pechadur;
A hoelio yn ngoleu Haulwen, Crist Iesu ar y croesbren,
A'i draed a'i ddwylaw'n ddolur, yn ymladd trosom frwydr,
A'r gwaed, a'r gwaed, wrth drengu, o'i ben a'i draed
Fel megys afon, o dyllau'r hoelion, yn ffrydiau cochion caed.

Tywyllodd yr hollfyd, wrth weled Haul Bywyd
Yn dyoddef mewn tristyd ar drostan;
Tywysog y fagddu yn ceisio lle i lechu,
A'r ddaear yn crynu—cur anian;
'Roedd agwedd y creigiau, fel ystyllod yn holltau,
A'r beddau yn agoryd, a'r meirw yn cael bywyd;
Mawr fraw, mawr fraw, yn lluddias pawb ger llaw,
Y gwŷr flangellau a'r milwyr, yn troi wynebau draw.


Nid marw wnaeth Silo wrth gael ei groeshoelio,
A myn'd i dir ango' trwy ingoedd;
'Roedd ganddo ef allu roi'i ysbryd i fynu,
A'i gym'ryd wnai'r Iesu, ni rosodd.
Daeth Iesu, Craig yr Oesoedd, fel ufudd was o'r nefoedd,
Disgynodd o'r uchelder i barthau isa'r ddaear;
Mewn bedd, mewn bedd ni wywodd dim o'i wedd,
Ond adgyfodi ddarfu'r Iesu 'nol claddu angau cledd.
 
Er ymdrech rhaglawiaid, a gofal milwriaid,
Er gwaetha'r holl geidwaid fe gododd;
Y maen, wedi'i selio, a gafodd ei dreiglo,
A phawb oedd yn gwylio a giliodd:
Fe dalodd yr holl ddyled dros ferch yr hen Amoriad,
A chroesi y biliau, dileu'r ordinhadau;—
O byrth, O byrth, dyrchefwch gyda'r gwyrth,
Ma'r Brenin Iesu yn d'od i fynu—gwaith synu, byth ni syrth.

Yr Aberth trag'wyddol yn awr sydd yn eiriol,
Trwy rinwedd gwaed dwyfol caed afon,
A darddodd yn dechreu o ochr ein Meichiau,
Ar fynydd Golgotha, rhwng caethion.
Mae afon goch Calfaria yn canu'r Ethiop dua',
Mor wyn a'r eira ar Eryri, heb frychau chwaith na chrych.
Trwy'r gwaed, trwy'r gwaed digonol Iawn a gaed,
I gadw'r heintus a'r gwahan—glwyfus yn drefnus ar eu traed.

Defnyddiwn ein breintiau, mae perygl o'n holau,
Cyn delo dydd angau diangwn;
Mae heddyw'n ddydd cymmod, a'r swper yn barod,
A'r bwrdd wedi'i osod—O brysiwn:
Mae'r dwylaw fu tan hoelion yn derbyn plant afradlon,
I wlad y Ganaan nefol, i wledda yn drag'wyddol.
Amen, Amen, O moliant byth, Amen,
Haleluia i'r Messia sy'n maddeu byth, Amen.

Carol y Swper; yn cael ei chanu'n draddodiadol (dynion yn unig) yn Llanfair Dyffryn Clwyd; Rhagyr 2015

Nodiadau

[golygu]