Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/CYDUNED pob doniau, yn forau un fwriad
← FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
GWRANDAWN ar leferydd y newydd yn awr → |
CAROL 4.
Mesur—DIFYRWCH GWYR TREFALDWYN.
CYDUNED pob doniau, yn forau un fwriad,
Mewn mawl ac anrhydedd iawn cydwedd i'n Ceidwad,
Ail berson yn hanfod Duw hynod ei hunan,
Yn un anwahanol a dynol dlawd anian.
Nis gallai'r Nef lwys mo'i gynnwys ef ynddi!
Rhyfeddol ei hun yn ddyn ga'dd ei eni!
Un Person, dwy natur, Penadur poenedig;
Yn gymhwys Gyfryngwr, Iachawdwr parchedig:
Mor uchel a Duw, i ateb i'w burder;
Mor isel a dyn, mewn eithaf iselder;
O Fair pan ei ganed, fe ga'dd fawr ogonedd
Gan luoedd ysbrydawl, difyrawl glodforedd.
Ond rhyfedd y ffurfiwyd Mab Duw yn mru Mari,
Tri pherson tra doeth—lawn, mewn dawn, yn cyd—weini:
Pob gweithred o gariad at ddyn yn rhagori;
Galluoedd Duw Ysbryd i gyd am ei godi;
Doethineb y Tad, yn ethol a danfon;
Ufudd—dod y Mab, yn d'od yn dra boddlon;
Gwaith cywrain Glân Ysbryd, fu yn ei genhedlu;
Trefn anrhydeddusa'n cymhwyso'r pur IESU;
Santeiddio bru Mair, i ddal y GAIR DWYFOL,
Cyfleu Duw (ei hun) mewn cnawd, yn ddyn meidrol,
Mawr syndod diddarfod gwaith hynod Doethineb;
Rhyfeddwyd, rhyfeddir i bob trag'wyddoldeb.
Ac er cael ei eni, mewn tlotaf wael anian,
O forwyn iselwedd, mewn agwedd dyn egwan;
Ni chollodd angylion mo'u tirion Iôn, yno;
Er dyfod dan w'radwydd o'u gwydd, fel i 'mguddio;
Dechreu'sant yn ddoeth, bur goeth, ei bregethu
Yn Dduw iddynt hwy, a mil mwy na hyny;
Yn gyflawn gyfodiad, a Cheidwad pechadur;
Athrawon Nef uchod yn gosod i'n gysur.
I ninau yn awr, doed gwawl nefol goron,
Goleuni i lawr i wel'd y mawr berson;
Fel delom, rai dylesg, i'w ddilesg addoli
Yn ngoleu dysgleiriol ei radol fawrhydi.
Roedd Crist wedi ei addaw gan arfaeth drag'wyddol,
Y deuai i wisgo am dano gnawd dynol:
Rhoed, wedi, i farwolion, addewid fawr helaeth,
Gan ddyweyd i fyd isod, "Anorfod yw'n harfaeth,
Mae IESU yn dyfod, Concwerwr mawr dwyfol,
O wraig, o had Efa; fe 'siga ben Diafol.'
Eu gair a gyflawnwyd, fe'u rhoddwyd yn rhyddion:
Gwraig rydd ydyw'r arfaeth, addewid sy'n foddlon.
Ond rhyfedd iawn oedd i'r nefoedd lân hawddgar,
Gwlad rydd, hi a aeth yn rhwym, i'r gaeth ddaear;
Duw mawr heb un ddyled, mewn dyled i ddynion,
A'r Priodoliaethau'n dysgleirio'n dra boddlon.
Y Nefoedd a dalodd, ni dduodd addewid,
I'r ddaear, (faith eigion) fel ei cyfoethogid;
'Nawr ddaear, mae dolef Duw nef yn dy ofyn,
Mae dydd it' i dalu, ar ol hyn yn dylyn.
Awdurdod ein Iôr arweiniwyd o'r wiw—nef,
Efengyl fawr gref, myn ddodrefn Nef adref;
Hi gasgl y rhif ethol, ni âd yn ol aelod
Gwerth gwaed y Dyn Iesu, er Diafol a phechod:
Rhwym Iesu'r hen Lew, yn mhydew y poenau;
Dwg gaethion o'i hawl, gyfryngawl grafangau;
O lafur ei enaid i'w law fawr E ynill,
Ni âd o'i holl eiddo un iddo yn weddill.
Pan gesglir holl nifer yr Arfaeth i Seion,
O bob cwr y ddaear, Cenhedloedd, Iuddewon;
Bydd llawen y lluaws a gaed i'r Llenlliain,
Yn seinio mawl uchel, i'w IESU'n ddi ochain.
Rhwn wnaeth ddwfr yn wîn, trwy nerth ei rîn wyrthiol
A'u deil yn ei law, (er llid a braw Diafol)
Hwn eilwaith, try alar ei blant yn orfoledd;
Yn helaeth iawn yfant o wîn ei dangnefedd.
Yn cerdded fe'i caed, a'i draed ar frig tònau;
Yn dyfod y cair, Mab Mair, ar gymylau;
O bulpud y cwmwl ar bawb oll, fe eilw,
O ddaear, o foroedd, "I'r farn deuwch feirw."
—W. WILLIAMS, Gwilym Peris.