Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/DEFFROWCH yn llon, breswylwyr llwch
← NAC ofnwch, rai sy'n effro | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
GAN ini fod trwy ras yn fyw → |
CAROL 13.
Mesur—THE BIRD.
DEFFROWCH yn llon, breswylwyr llwch,
A chodwch, Oh! chwychwi;
Dadseiniwch oll, Hosanna a chân,
Mae'n lân wir Jubili:
Dihunwch chwi, rai tlawd a chaeth,
Hi ddaeth, hi ddaeth yn ddydd;
Mae'r haul yn glir, a'r hwyl i'n gwlad,
A'r ffordd yn rhad a rhydd:
Oh! wele'r dydd, newyddion da,
Pob tlawd a chla', clywch lef,
Chwi sydd â d'lêd i'ch suddo hyd lawr,
O! wynfyd wawr, y Meichiai mawr
A ddaeth yn awr o'r nef:
Tangnefedd sydd, mae'n rhyfedd son,
Lles dynion, 'wyllys da;
I ddynion drwg, o'i ddawn di drai,
Druenus rai, dan bwys eu bai,
Yn rhyfedd a'i mawrha,
Oh! rhyfedd byth, fath gwlwm byw
Rhwng Duw âg enaid dyn;
Mae eglur sail ei eglwys Ef,
Cyn bod y nef, yn un;
Pan 'roedd y dyn ar Eden dir,
Y wraig yn wir a wnawd
O'i asgwrn ef, i wisgo'r nodd—
Drwy hon cynyddodd cnawd;
Pan gwympodd hon y gamp oedd hallt,
Pwy ddichon ddallt mor ddefn
Oedd rhyfedd ddawn doethineb Duw,
Yn addo'n wiw, d'ai'r Had o'i rhyw
I'w chodi'n fyw drachefn:
Er bod y pechod chwerwdod chwith
Yn tyfu'n felldith fawr,
Trag'wyddol sail yr eglwys yw
Addewid Duw, yn rhad o'i rhyw,
Sydd ganddi'n byw, bob awr.
A hwn yw'r GAIR a wisgodd gnawd,
'Fe wnawd yn Frawd i ni;
Ac yn ei gnawd, âg enwog nerth,
Condemniai'r anferth ri':
Yn gymaint oll, mai y'nghnawd y dyn,
Daeth colyn gwenwyn gynt,
Y'nghnawd y dyn y cnydiodd dawn,
Bu'n rhyfedd iawn yr hynt:
Er dyfned oedd trueni dyn,
Mab Duw ei hun wnai hedd,
Aeth dan bob rhan, digofaint pryd
Olrheiniai ar hyd ei eglwys ddrud
Trwy'r byd tu draw i'r bedd:
Oh! 'r cariad oedd y'nghalon Duw,
Rhyfeddod yw mewn dawn!
Gwaith cariad rhad, congeweriad rhwydd,
Yn chwalu chwydd hen sarffaidd swydd,
Pob lid euogrwydd llawn.
I rai sydd dan euogrwydd dwys,
Yn teimlo'r pwys a'r poen,
Mae'n rhyfedd werth y nerth a wnaed
O rinwedd gwaed yr Oen:
Nid rhaid i'r iach wrth feddyg rhad,
O ran gwellhad na lles;
Rhag lid y seirff, trallodus haint,
'Roedd braint y sarff o bres:
Raid felly i'n cred ddyrchafu Crist,
I rai sy'n drist dan draed;
Gan feirw i'w chwant, hwy fyddant fyw,
Bob rhai a glyw rhyfeddant Dduw;
Mor werthfawr yw ei waed!
Y rhei'ny gân i'w enw gwir,
Nes byddo'n clir ddatgloi
Byrth carchar cau, heiyrn farau'r fall,
Nes deffro'r dall i wel'd ei wall,
A ffydd i'r anghall, ffoi.
Y ganiad hyny, âg enw teg,
Yw'r gwir a'r gareg wèn;
Maddeuant rhad, o gariad rhydd;
Dyrchafiad ffydd i'w phen:
Dirgelwch yw da'r goleu'i chael,
Mawr fael wna'r meirw'n fyw;
Moliennir Ef â llef yn llon,
Gan waredigion Duw:
A gwyn ei fyd a gano fawl,
Mewn hawl o'r gwir fwynhad,
Coel fawr yw'r fraint Calfaria fry,
Plant Seion sy, mewn cariad cu,
'N mawrygu pardwn rhad;
O fyth am nerth, mae'n faith y nôd,
I roi teilwng glod i ti;
Yr Oen a ga'dd ei ladd, trwy loes,
Ar bren y croes, yn rhad a roes,
O newydd, oes i ni.
O'r iechydwriaeth helaeth hon,
Mor fawr gerbron yw'r braint;
Ac O mor bell o gyraedd byd
Yw sylwedd bywyd saint!
Na thwyller chwi, deallwch wir,
Nid oer watwarir Duw;
Rhaid ini gael ein dwyn o gas
Ei farn, a'i ras i fyw:
O'r diluw drwg fe'n deil ni draw,
Gerllaw o gyraedd llid;
Ei eglwys Ef, mae'n wiwglwys hi,
Yn Nghrist a'i fri sy'n Arch i ni,
Rhag boddi gyda'r byd:
A gwyliwn bawb, rhag ofn y b'o
I neb fod eto'n ol;
Can's heddyw yw'r awr gym'radwy sydd,
Nid foru fydd, rhag colli'r dydd
Ar ffydd morwynion ffol.
O! Duw, na bae'm â di nam bwyll,
Yn profi o'i ddidwyll ddawn;
I gael y nôd, mewn goleu nef,
I'w 'nabod ef yn iawn:
Adnabod sail Crist, a'i dair—swydd,
Yn Arglwydd ynom ni;
A pheth yw trefn maddeuant rhad,
Trwy ffydd a phrofiad ffri:
Cael profi'n bod yn eglwys bur,
A'n geni o natur Nef:
Un gwedi'i chael trwy'r gwaed a'r chwys,
Yn lân ddi lys, fel Efa i'w flys,
O'i santaidd ystlys Ef:
Dyrchafwn glir, dra chyfiawn glod,
I'n Priod, fu ar y pren:
I esmwythâu'n pwn, yn hwn bo'n hawl,
Lle geill pob sawl, ar dôn ddi dawl,
Gyd—ganu mawl.—Amen.
—THOMAS EDWARDS.