Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/DEFFROWN, deffrown, a rho'wn fawrhad
← GYN'LLEIDFA gariadus, cyd-ganwn fawl melus | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun → |
CAROL 2.
Mesur-TRYMDER.
DEFFROWN, deffrown, a rho'wn fawrhad,
Cyn toriad dydd,
I ddwyfol AER y nefol wlad,
Croesawiad sydd;
Fe ganodd ser er bore'r byd,
Sef holl angylion Duw yn nghyd,
Fe ganodd y Proffwydi i gyd,
Heb fod yn gau;
A pha'm na chanwn ninau'n un
Am gael Jehofa mawr ei hun
Mewn dull fel dyn, ac ar ein llun,
I'n gwir wellhau!
Ein cwymp fu fawr i gyd i'r llawr,
Heb gadw ein lle,
Gan werthu'n hawl, archolli ein hun,
A cholli'r ne';
Heb ran i'w gael o'n breiniau i gyd,
Ar wyneb maes yn feirw a mud,
Heb obaith, heb un Duw'n y byd,
O dan ein bai;
Yn aflan bawb fel yn y bedd,
Tan glwyfau'r sarff, galarus wedd,
Heb geisio'n rhad, un cysur hedd,
Yn gasa' rhai.
O ryfedd rad y cariad cu
A ddarfu ddwyn
I'n plith y Meddyg, Iesu mad,
Samariad mwyn!
Gadawodd orsedd nefol wlad,
Ei 'wyllys oedd er ein llesâd,
I lawr y daeth o lys ei Dad,
I'n hisel dir;
O'n natur lesg cymerodd ran,
Bu iddo 'mostwng y'mhob man,
Mewn beudy'n wael, mewn byd yn wan,
Bu'n bod yn wir,
Ymwelodd ein Creawdwr mawr,
Yn awr â ni,
Mewn dull rhyfeddol wael, er maint
Ei fraint a'i fri;
Cysgodi ei Dduwdod mawr a wnaeth
Mewn dynol gnawd, yn dlawd a chaeth,
I'r proseb caeth yr Iesu a ddaeth
O'i orsedd wen;
Pen gwrthddrych cân llu nef i gyd
Heb le mewn lletty claerdy clyd;
Cynnaliwr mawr pilerau'r byd
Heb le roi'i ben.
Ond er ei waelder ar y llawr
Mae'n fawr un fodd,
Mae pob trysorau tan ei sel
Goruchel rodd;
Mae'n hollgyfoethog enwog un,
Yn gadarn Dŵr i gadw dyn,
Mae pob cyflawnder ynddo 'i hun
I Adda a'i had;
Mae'n fywyd meirwon i ail fyw,
Mae'n Feddyg llon i'r fron sy'n friw,
Gwisg lawn i'r noeth, a chyfan yw,
A chyfiawnhad.
Bechadur heddyw, gwel dy le,
Gad gael dy lais,
Am gael i'th fynwes Frenin ne'
Pob cyfle cais:
Paham yn drist y safwn draw?
Efe yw'n braich rhag ofn a braw;
Mae'n derbyn ato bawb a ddaw,
A'i law ar led;
Dim cariad mwy na hwn nid oes,
Ac ni bu 'rioed mewn neb rhyw oes,
Ei fywyd rhoes ar bren y groes
Dros bawb a gred.
Hwn ydyw'r gŵr a'i groes yn drom
O Edom aeth,
O Bosra gynt a'i wisg yn goch
O'r wasgfa gaeth;
Fe sathrodd ar elynion lu,
Gorchfygwr yw, Gorchfygwr fu,
Fe ddwg ei saint, fu, ddaw, ac sy,
I fyny'n fyw;
Ca'dd fuddugoliaeth lawn o wledd
Ar angau, uffern, byd, a'r bedd,
Esgynodd fry i feusydd hedd,—
Efe sydd Dduw.
Mae eto'n d'od, yn barod b'om
Tra byddom byw,
I ymgyfarfod mewn gwir ffydd
Bob dydd â'n Duw;
Rho'wn gyfrif o'r or'chwyliaeth hon,
Ni thâl esgusion ger ei fron,
Mae'n adwaen gwraidd y galon gron
Mewn golwg rhydd;
O am ein caffael ynddo fe,
Fel gogoneddus blant y ne',
Bydd llon ein lle ar ei law ddê,
Pan ddêl ei ddydd.
—ROBERT DAVIES, Bardd Nantglyn.