Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/DIHUNED plant y dyfnder du
← I GADW gwyliau yn un galon | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
WEL ganwyd Crist y Gair → |
CAROL 7.
Mesur—DIFYRWCH GWYR CAERNARFON.
DIHUNED plant y dyfnder du,
Nol bod yn cysgu cy'd;
Mae'r dydd yn gwawrio oddi fry,
Ar ben amgylchu'r byd.
I ni genhedloedd gwael ein dull,
Oedd draw a thywyll drem,
Y rhoed goleuni, gwedi gwyll,
A sail yn mhebyll Sem.
Newyddion da sy yn ein dydd,
Fe gaed Gwaredydd rhad;
Mawr angenrheidrwydd sobrwydd sydd,
A ffydd i wneyd coffâd.
Wrth gofio dydd Mab Duw, a'i daith,
Ar waith rhyfedda' erioed,
I'w enw, gan bob llwyth ac iaith,
Y mawl yn berffaith boed.
Etifedd gwir y nefoedd fry,
A'i dysglaer lu di lyth,
Mewn dyndod ar y ddaear ddu,
Peth i'w ryfeddu fyth.
Mewn oes ofidus, hyd ei fedd,
I'n dwyn i hedd â'i Dad;
A'r Tad yn gwaeddi "Deffro gledd,"
O! rhyfedd Geidwad rhad.
Cyfiawnder dwyfol Un yn Dri,
Ein harbed ni nis gwnae,
Ac er aberthu mwy na rhi,
Y ddeddf yn gwaeddi "Gwae,"
Fe ddaeth y SEILO, hyfryd son,
Ein holl ddyledion ni
A dalodd ef,—cyflawnodd Iộn
Ei holl ofynion hi;
Ar fryn Calfaria, un prydnawn,
Tywalltwyd cyfiawn waed,
A roes i'r gyfraith daliad llawn:
Digonol lawn a gaed.
Mae merch yr hen Amoriad, mwy
O'i dyled trwy y tro:
Caed digon yn ei farwol glwy'
I dalu ei dirwy, do.
Rhajd eto ei diosg a'i rhyddhau
O'i harffedogau dail;
Ei lladd i'r ddeddf cyn gwir fwynhau
Rhinweddau Adda'r Ail.
Mae'r ddeddf yn athraw uniawn rôl
At Grist o'n cnawdol wŷn;
Ond rhin ei waed sy'n troi yn ol
Euogrwydd damniol dyn.
Pan ddel y newyn i drymhau
Yn ngwlad y cibau cas,
A Duw yn dechreu eglurhau,
Mewn grym, drysorau gras;
Ni wel y mab yn ngwlad y moch,
Ond poen ac och i gyd,
Ymflina ar eu braw a'u broch,
Eu rhôch sydd oer o hyd.
Wrth feddwl dychwel adre' i fyw,
Mae'n ofni rhyw sarhad;
Y gwael newynog, euog yw
O adael Duw ei Dad.
Cyn marw o newyn gyda rhai,
Wynebai tua'r Ne',
Ac at ei Dad, gan addei fai,
Pe'i lladdai yn y lle.
Pan ddaeth, a syrthio wrth ei draed,
Dan bwys rhyddhad o'i boen;
Ac, yn y fan, fe eglurhaed
Eiriolaeth gwaed yr Oen;
Ei Dad a'i dygodd ef i'w dŷ,
A llawenychu a wnaed:
Ni ddamniwyd un erioed a fu
Ar drengu wrth ei draed.
Mae eto yn cyhoeddi gwys,
"Chwi rai truenus trowch,
A deuwch allan, gyda brys,
O'ch ffyrdd peryglus ffowch:
Cyn myn'd Sodoma yn ulw du,
Dowch bawb sy'n caru byw;
Mae gwaredigaeth yn ei dŷ
Gan IESU; a digon yw.
Tarian ei Saint mewn troion serth,
Mewn culni certh y caed;
O ras i ras, o nerth i nerth,
Dyg ato werth ei waed.
—GRIFFITH WILLIAMS, Gutyn Peris.