Neidio i'r cynnwys

Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun

Oddi ar Wicidestun
DEFFROWN, deffrown, a rho'wn fawrhad Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
CYDUNED pob doniau, yn forau un fwriad



CAROL 3.

Mesur—GRISIAL GROUND.

FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun,
'Doedd ynddo yn reddfol had marwol ddim un;
Uwch Angel oedd e', uwch Seraph y ne',
Daearol ben arglwydd a llywydd y lle;
Yn awr Tri yn Un a wnaethant i'r dyn
Ymgeledd, gwraig wiw lwys, wareiddlwys o'i lun;
Oh! ddedwydd gyflyrau, llawn o bob rhinweddau,
Heb wg yn eu heiliau, gwag eiriau na gwŷn;
Mewn cyflwr teg wawr, ni fuont hwy fawr,
O ganol dedwyddyd hwy lusgwyd i lawr;
Oh! ddeuddyn anhyfryd, mawr iawn fu'r cyfnewid,
I ninau'r un ffunud mae'n ofid yn awr.

Oh! drefn Un yn Dri, Oh! fraint uchel fri,
Mawr yw'r ymwared, mae'n nodded i ni;
Nyni'n wael ein gwedd, fel marw'n ei fedd,
Er hyny'n cael bywyd mae'n hyfryd mewn hedd;
Nyni oll a wnaed yn rhwym ddwylaw a thraed,
A golwg go waeledd yn gorwedd mewn gwaed!
Heb ronyn o rinwedd, yn llawn o bob llygredd,
I'n codi o'r fath ddyfnfedd tugaredd a gaed;
Oh! gwelwn yn gu, mai fel hyn y fu
Ein bod mewn anobaith, oll unwaith yn llu,
Ond Iesu ddaeth wed'yn, o'i nefoedd yn addfwyn,
I'n achub rhag disgyn i'r dyfn—lyn mawr, du.
 
Mab Duw ddaeth mewn cnawd i le oedd dylawd,
A llawer dyn angred 'n ei weled yn wawd,
Y'mreseb yr ŷch, yn wael iawn ei ddrych,
Ni chafwyd i'w eni un gwely hardd gwych;
Yn drist iawn o'r dre' y troes ei fam E',
Nid ydoedd ond beudy, dim lletty yn y lle;
'Roedd ffäau i lwynogod, ac i adar nythod,
Dim lle wedi ei osod i fod iddo fe;
Er ised ei wedd, bu lawen y wledd,
Plant angau wareiddiwyd i fywyd o fedd;
Angylion gogoniant i'n Iesu canasant,
Drwy nefoedd mewn nwyfiant cyhoeddant gu hedd.

Gogoniant ar g'oedd, yn Methlehem oedd,
Llu'r nefoedd yn adsain, ar blygain bu bloedd,
Gogoniant teg wawr, drwy'r nefoedd yn awr,
Tangnefedd i ddynion oedd lymion ar lawr;
Sêr boreu ynghyd, a'r Seintiau 'run pryd,
Yn canu i'w Cynhaliwr, a Phrynwr y byd;
O! ddydd iachawdwriaeth, a dydd gwaredigaeth,
Y cafwyd achubiaeth trwy driniaeth tra drud;
Drud iawn iddo E' oedd marw yn ein lle,
Ei gorph glân a ddrylliwyd, anafwyd is ne',
Ond eto tosturiodd i'n hachub o'i wirfodd,
Er marw'n fyw deuodd cyfododd efe.

O cofiwn i gyd na ddaeth Crist i'r byd,
Ond drwy ei ddirmygu, i'n prynu mewn pryd,

Ond fel y bo'm byw yn hollol i Dduw,
Ac nid yn elynion anraslon o ryw;
Os felly'r â'r oes fer heibio, nid oes
Ond goddef byth ddigter, byw lymder y loes;
Yn awr y mae Iesu o'i rad yn gwaredu,
Gwell ini gan hyny ymgrymu wrth ei groes;
O Dduw rhwyga'r llen, yn awr is y nen,
Fel b'o o'r trueni i bawb godi ei ben;
Ac yna hwy gânant i Dduw am faddeuant,
Yn Salem preswyliant mewn moliant. Amen.

—OWEN WILLIAMS, Waunfawr.


Nodiadau

[golygu]