Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/GYN'LLEIDFA gariadus, cyd-ganwn fawl melus
← Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
DEFFROWN, deffrown, a rho'wn fawrhad → |
TELYN SEION.
CAROL 1.[1]
Mesur-TEMPEST OF WAR.
GYN'LLEIDFA gariadus, cyd-ganwn fawl melus,
Ag odlau soniarus, daionus, i Dduw ;
O'i gariad trag'wyddol, trwy Grist y Maen Bywiol,
Agorodd ffordd rasol i'w bobl gael byw:
Trwy rinwedd ei ras, yn wyneb ei was,
Y cofiodd blant gorthrwm, y codwm du, câs;
Ac heddyw'n ddiwâd, 'nol cyngor y Tad,
Esgorodd trugaredd y rhyfedd Fab rhad.
Cymerodd y Duwdod, yn sylwedd dibechod,
Ein natur, sef dyndod, yn gysgod i'r Gair,
Trwy'r Ysbryd santeiddiol y ffurfiodd gorff dynol
I'w berson anfeidrol, y'meidrol groth Mair;
A'r hynod Fair hon, esgorodd yn llon
Ei Thad a'i Chreawdwr, gwir Brynwr ger bron !
Nid gorwych lys rhi, llon, prydferth, llawn bri,
Ond preseb isel-gor, i'w esgor ga'dd hi!
Etifedd coronau, Cynnaliwr unbenau,
Gan Mair ar ei gliniau, mewn bratiau di bris,
Creawdwr yr hollfyd mewn preseb âg anwyd,
Pa Lazarus gornwydlyd a welwyd yn is?
Teilyngdod pob bri tan w'radwydd a chri,
Er prynu goludoedd y nefoedd i ni;
Gan gyfrif, Dduw Gun, i'w berson ei hun,
Yr oll, er ein gwared, oedd ddyled ar ddyn.
O cofiwn ei ddagrau yn ngardd Gethsemane,
Ei ing a'i fflangellau yn dyodde' mhlaid dyn,
Cyfyngder ei enaid, pan gym'rodd gwpanaid
Ei Seion fendigaid, i'w hyfed ei hun;
Pa galon na thôdd, o'r ingder a'i clôdd,
Wrth ro'i dros ei 'nwylyd ei fywyd o'i fodd !
Gan oddef, heb wad, bob briwder a brâd,
Awch cleddyf cyfiawnder a digter ei Dad.
Goddefodd nes d'wedyd o'r Tad, Fe'm boddlonwyd
A llefain, Gorphenwyd, agorwyd ffordd gu,
Trwy'r anial truenus, glyn Baca wylofus,
A dwyfol fynegfys i'r B'radwys o'r bru;
Ei ysbryd tra llon, trwy'r dymesti a'r don,
Arweinydd daionus, a'n tywys hyd hon;
Trwy'r prid werth a wnaed, maddeuant a gaed,
I gaethion aneirif, ar gyfrif y gwaed.
Mae'r wledd ar fryn Seion, i'r holl bererinion,
Yn llawn pasgedigion, a chyfion i'w chael;
A'r gwin wedi ei wasgu o lafur ein Iesu,
Mae'r nefoedd, trwy hyny, yn gwenu ar y gwael:
Mae'r ddurtur lon, fâd, i'w chynyg trwy'n gwlad,
Uwch ben yr lawn hyfryd, i'r hollfyd yn rhad;
Tywynodd Haul Mawr Cyfiawnder i lawr,
Glyn angau ddysgleiriodd â nefoedd yn awr.
Gan hyny, fy mrodyr, ymgeisiwn am gysur,
Gan fod i bechadur fath gysur i'w gael;
Y gu-dorf nac oedwch, yr alwad 'morolwch,
Trwy fôr edifeirwch, am heddwch Duw hael;
Pa esgus a gawn, os gwrthod a wnawn,
Wir ras a rhadlonder tirionder yr Iawn?
O ceisiwn i gyd ein Iesu mewn pryd,
Gan foli'n Duw tirion o galon i gyd. Amen.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Di-enw yn y llyfr ond gwaith David Hughes (Eos Iâl)