Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/I GADW gwyliau yn un galon
← GWRANDAWN ar leferydd y newydd yn awr | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
DIHUNED plant y dyfnder du → |
CAROL 6.
Mesur—YMADAWIAD Y BRENIN.
I GADW gwyliau yn un galon,
Nid o fwriad hen arferion;
Mewn meddwl gonest de'wn i ganu,
Fawl Nadolig fel gwir deulu:
Mae côr y Nef yn gorfoleddu,
Bugeiliaid yn y maes yn canu,
De'wn ninau'n awr, cyn tori'r wawr,
Creaduriaid llawr daear,
I barchu'r newydd yn 'wyllysgar,
I ni cyfododd Haul Cyfiawnder.
Haul y Nef ar hil anafus,
A dywynodd, modd daionus.
Haulwen hedd, a wawria ei wedd,—
Trugaredd ragorol:
I fyd o bechaduriaid marwol,
Oedd i Dduw'n eithaf gelyniaethol.
Tarana'r gyfraith oedd yn rhuo,—
Er codwm Adda, uwch ben ei eiddo:
Cyfiawnder haeddol yn cyhoeddi
Dyn dan felldith cyn ei eni:
'Roedd dyn yn moreu 'i enedigaeth
Yn trafaelio at farwolaeth,
Holl ddynol ryw yn cefnu ar Dduw,
A distryw yn taenu drostyn',
Trwy i Adda goelio iaith y gelyn,
Tòri a chamu y gorchymyn:
'Roedd cyfraith santaidd Duw'n golygu
Cyfiawnder pur i'w hanrhydeddu,
Ac uchel lef, o flaen y Nef,
Mewn gafael gref, gyfion,
Yn cyhoeddi ei melldithion,
A'i hawdurdod yn gyfreithlon.
'Roedd ei bygythion, och! mor gaethedd!
Heb ar ei geiriau un drugaredd:
Ei lid at gamwedd ydoedd gymaint,
Heb ollwng gwaed nid oedd maddeuant;
Ac er gwaed bustych a gwaed hyrddod,
Lladd durturiaid a ch'lomenod,
Llosgi a lladd, er hyn ni cha'dd
Ddigonedd a wna gymmod;
Heb berffaith Iawn nid oedd gollyngdod,
Na gobaith bywyd i'w gydnabod;
Nid oedd greadur dan y nefoedd
Er ei farw, na gwaed yn foroedd,
A wnae'n gytun Dduw a dyn,
Heb sylwedd Brenin Silo,
Yn Dduw a dyn ei hun i'w huno,
A gwisgiad dynol gnawd am dano.
Lle gwelwn gariad rhad yn eglur
Yn mhriodas y ddwy natur,
Y Duwdod santaidd yn ymwisgo,
A'r natur ddynol yn ymrwymo;
Iesu Brenin Nef y nefoedd,
O'i hunan gariad, hwn a'i gyrodd,
Priodi a wnaeth forwyn gaeth,
Mewn arfaeth o'i wirfodd;
A swm ei dyled oll a dalodd:
A phob gofynion a gyflawnodd.
Cyflawnodd eiriau y Proffwydi,
Oedd am dano'n rhagfynegi;
Cyflawna ei waith, blinderus daith,
Ar y gyfraith hir gyfri;
Cyflawna a addawodd i'w ddyweddi,
Ei addewidion yn ddioedi.
Cyflawn waith ein prynedigaeth,
A ragwelwyd draw mewn arfaeth";
Gadawai ei nefoedd lân yn ufudd.
Agorodd ddrws cyfammod newydd;
Dros ei aelodau etholedig,
Fe gym'rodd arno boen a dirmyg,
Cystuddiau a gwawd, yn y cnawd,
Yn Frawd hwyrfrydig,
O garu maddeu gorfu i'r Meddyg
Ddyodde' gw'radwydd angharedig.
Dyodde' ei wadu, dyodde' ei wawdio,
Ei fflangellu a'i gernodio,
O 'wyllys da dyodde' a wna,
Tros Adda am droseddu:
Ar ben Calfaria bu'n aberthu
Ei gorph ei hun o achos hyny.
Nid allai'r haul mor edrych arno
Yn ei boenau heb g'wilyddio;
Nid allai'r ddaear lawr mor dyodde',
Heb grynu o ddychryn pan ymada'!
Nid allai seiliau'r byd ond siglo,
Pan oedd pechodau'n pwyso arno,
Gan wyro ei wedd i borth y bedd,
I orwedd mewn amdo;
Ond er ei weled yno a'i wylio,
'Roedd yr agoriad ganddo i'w gario;
Nid allodd Uffern mo'i garcharu,
Nid allodd bedd mo'i ddal i bydru,
Cyfodai'n rhydd y trydydd dydd,
Mae sicrwydd o hyny,—
Fel na cha'i Thomas ei anghredu,
Ca'dd roddi ei fŷs yn ystlys Iesu!
Gan adgyfodi o'r Pen yn gynta',
Fe adgyfodir yr aeloda';
Bydd adgyfodiad cyffredinol
I bob achau, graddau, gwreiddiol:
Pan gan udgorn mawr y Nefoedd,
Fe gwyd y meirw o dir a moroedd
Cyfodi raid o'r llwch a'r llaid,
Daw'r enaid a ymranodd
Yn ol i'r corph, yr hwn a'i cariodd,
I gyd deyrnasu heb derfyn oesoedd;
Duw ei hunan a'n dihuno,
I gyflwr parod i ympirio,
Pan ddel efe ar gymylau'r ne',
Boed ini le ynddo,
A gwledd i'r enaid Iesu a rano,
Amen, Amen, a Duw a'i myno.
—H. W.