Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Afon y nos

← Siomn Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Gair o bell →

XL.
AFON Y NOS
.

Trwy froydd breuddwydion hud
Y llifa afon y nos,
A ffrydiau'r meddyliau mud
Ymdroellant mewn gwaen a rhos.

Ymdywallt wna'r llif di-hedd
O gaddug yr oesau fu,
Ac aber ceulannau'r bedd
A'i gollwng i'r cefnfor du.

Fe droir yn freuddwydiwr syn
Pwy bynnag a ddrachtio'r dwr,
Unigrwydd cysgodau'r glyn
Fydd bythol aneddle'r gwr.

Yn wylaidd estynna'i law
I chwilio'r gyfrinach ddofn,
Dan deyrnged i frenin braw
Yn nheyrnas y barnol ofn.

Ond cilio wna'r gobaith cu,
A goleu'r addewid dlos,—
Cyfaredd y gwpan ddu
Sy'n nyfroedd afon y nos.


Nodiadau

[golygu]