Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Arthur yn cyfodi
Gwedd
| ← Goleu gobaith | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Circê → |
LI.
ARTHUR YN CYFODI.
Yng nghyfrin ogo'r tylwyth teg
Wrth odrau'r dal Elidir,
Yng nghanol ei farchogion dewr,
Gorffwysa'r brenin Arthur;
Ac addaw wnaeth wrth ado'r byd,
I wella o'i archollion,
Y deuai'n ol os byddai plant
Ein gwlad i'w gwlad yn ffyddlon.
Ar ol canrifoedd chwerwon maith
O ruddfan a galaru,
Y dwyrain ddengys doriad gwawr
Oes euraidd hanes Cymru;
Mae arfau dur ar hyd y wlad
Yn peri trwst a chyffro
Wrth naddu meini temlau dysg,—
Mae Arthur wedi deffro.
Llawn och a galar fu ein gwlad
Er pan y clwyfwyd Arthur,
A than ddyrnodiau gorthrwm du
Bu llawer Cymro'n ferthyr;
Ond methodd gormes lem a grym
Gelynion ein difodi,
Mae Cymru'n bod, a'r iaith yn fyw
Ac Arthur yn cyfodi.