Telynegion (Silyn a Gruffydd)/At y Cymry
| ← Telynegion (Silyn a Gruffydd) | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Cynnwys → |
AT Y CYMRY.
FE oddefa'r darllennydd hynaws air o eglurhâd, er mai peth heb ei eisieu ydyw rhagymadrodd i lyfryn o fath hwn. Cyhoeddir ynddo chwe telyneg arobryn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog, a diffuant yw ein diolchgarwch i'r pwyllgor am ei barodrwydd i ganiatau i ni eu cyhoeddi. Cynhwysa hefyd rai cyfieithiadau dan y pennawd Telyn yr Estron; nid heb betruster yr ychwanegwyd y rhai hyn rhag ofn digllonedd cyfiawn y neb a ŵyr brydferthed ŷnt yn y gwreiddiol. Arferir ambell air o dro, i dro sydd erbyn hyn, ysywaeth yn anghyffredin yng Nghymru, ond ni raid dweyd wrth ddarllenwyr Dafydd ab Gwilym mai ystyr "llatai" ydyw cenad serch, ac mai'r gair Cymraeg am appointment ydyw "oed." Ysgrifennwyd rhai o'r caneuon ar fesurau tonau adnabyddus, megis, "Eneth wen fel meillion dôl" ar fesur Dros y garreg, a Llyn Geirionnydd " ar fesur Loch Lomond. Gofalodd y Mri. Jarvis & Foster fod yr argraffwaith yn ddestlus, a rhoddasant i ni bob mantais i sicrhau cywirdeb orgraffyddol. Yn wylaidd iawn y cyflwynwn y llyfr syml hwn i sylw ein cenedl, a'n huchelgais pennaf yw ar iddo fod yn ddiferyn yn llif bywyd llenyddol newydd Cymru.