Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Blwyddyn serch

Oddi ar Wicidestun
Ffarwel Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Nos da

XXXVI.
BLWYDDYN SERCH.

Glas y gwanwyn, cochni hydref,
Llymder gaeaf du,
Ddilynasant ôl eu gilydd
Er pan gwrddais di.

Gwelais di ar lawnt y gwanwyn
Pan oedd serch yn fach,
Gwelais di ar ddydd hirfelyn
Glân Mehefin iach.

Pan oedd hydref wedi cuddio'r
Coed dan wridog len,
Wyt ti'n cofio oedfa'r afon
Is y manwydd, Men?

Gwelsom loer y gaea'n gwenu
Cariad ar y lli;
Yr oedd goleu yn dy lygaid
Na ddeallwn i.

Gaiff y gwanwyn ganu eto
Fore gerdd yr ardd,
Gaiff yr hydref wrido'r manwydd,
Tithau gyda'th fardd?


Fu amheuon ar dy lwybrau,
Menna, ambell ddydd?
Deimlaist ti fod geiriau cariad
Lawer tro yn brudd?

Tybiais innau'r dail yn gwywo
Ganwaith am fy mhen;
Bu rhyw ysbryd yn cynghori
Peidio caru Men.

Ond mae adsain oesau filoedd
Yn dy lais i mi,
Gwelais dragwyddoldeb ganwaith
Yn dy lygaid di.

Fun fy nghariad, nid oes marw
Byth yn aros serch,
Bythol wyrdd yw prennau deiliog
Cariad mab a merch.


Nodiadau

[golygu]