Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Breuddwyd

Oddi ar Wicidestun
Merch y brenin Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Endymion

XXVII.
BREUDDWYD.

Mae'r ysbryd yn brudd ac yn unig
Yn nwndwr aflafar y byd,
Yn gwrando am ddofn gyfrinach
Y pell a'r tragwyddol o hyd;
Unigrwydd anghysbell ynysig
Rhwng tonnau anhysbys aig,
Heb lais ond dolef y dyfnfor
Ym myddar glust y graig.

Breuddwydiodd yr ysbryd fod ystyr
I furmur diddiwedd y don,
Ei bod yn aflonydd wrth fethu
Mynegi cyfrinach ei bron;
A'i bod, wedi blino yn crwydro
Dros wyneb yr eigion pell,
Yn brysio i dorri ei chalon
Ar greigiau ei garchar gell.


A chalon doredig y moryn
Ddatguddiodd gyfrinion fyrdd
Am wlad lle cofleidia'r awelon
Ganghennau tragwyddol wyrdd,
Lle na chaiff edwinol law angau
Byth gyffwrdd grudd wridog y rhos.
Ond ciliodd y breuddwyd, a rhuai
Y dyfnder anobaith y nos.


Nodiadau

[golygu]