Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Cariadon

← Mynd a dod Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Olwen Glan Geirionnydd →

XLIII.
CARIADON.

A mi'n mordwyo yn y nos
Arnaf gwenodd seren dlos;
Cerais innau'r seren wen
Wenai'n ffyddlon uwch fy mhen.

Ond gwnaeth caru Morfudd fwyn
Im' anghofio'r seren swyn;
A threuliasom ddyddiau braf
Yn ein bad ar donnau'r haf.

Wedyn daeth y gaeaf du,
Troi ei chefn wnaeth Morfudd gu,
Trist ac unig oeddwn i,
Ond fy ngadael fynnodd hi.

Heno rhua'r dymestl hyf,
A hyrddio 'mad mae'r corwynt cryf,
Ond rhwng y cymyl ddua'r nen
Ffyddlonaf un yw'm seren wen.

Nodiadau

[golygu]