Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Cedwch allan y wawr

Oddi ar Wicidestun
Diwedd y daith Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Yr eiddew yn llatai

XLVIII.
CEDWCH ALLAN Y WAWR.

"Keep out the grey dawn."—Olive Schreiner.

Rhwng muriau oerion fy ngharchar
Mae f' enaid yn hoffi bod,
Yng nghwmni fy nall ddychymyg
Heb obaith na chanu na chlod:
Ffarweliais a phur oleu'r nefoedd,
Fy nghell ydyw 'nghydfyd yn awr;
'Rwy'n ofni fod rhyddid yn agos,—
O cedwch allan y wawr.

Mae swn cadwynau'n ymddatod,
Ond na rodder rhyddid i mi,
Gwell gennyf yw aros yn ddistaw
Yn dawel farw heb gri.
Tlws, tlws yw goleuni'r nefoedd
Yn disgyn yn gariad i lawr,
Ond beth os yw'm llygaid yn ddeillion?
O cedwch allan y wawr.


Mae 'nghell yn balas brenhinol
O bali a lliain main,
Y mur a'r nen sydd ysblennydd
A llawer i gerfiad cain;
Rhag dangos y muriau'n foelion
A'r gefyn ar fur ac ar lawr,
Rhag troi fy mharadwys yn uffern,
O cedwch allan y wawr.

Mae'r eilun euraidd a'i allor
Yn nuwch dedwydd y gell;
Cadd aml i ingawl addoliad
A llawer dyhead pell;
Ces nefoedd wennaf y ddaear
Ar fy ngliniau lawer i awr,
Ond gwell i mi beidio ei weled,
O cedwch allan y wawr.


Nodiadau

[golygu]