Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Cerdd y gwanwyn
| ← Yn ol at natur | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Robert Burns → |
XXIV.
CERDD Y GWANWYN.
Mae gwyllt atgofion yn dy fynwes di,
Ladmerydd hiraeth, hen ddeffroydd serch.
Pam, wanwyn, yn nwfn wyrdd dy newydd fri,
Rhaid iti gofio gaeaf mab a merch?
Mi welais heulwen gu dy ddyddiau glân
Ar weunydd ac ar fryniau,
A dawnsiol gerdd dy donnau
Ar dyner fron y llynnoedd mân.
O wanwyn dedwydd, anedwyddwch blin,
Tymor aneglur wawr ac atgyfodiad,
Rhy chwerw oedd cusanau'th felus fin,
A breuddwyd nosawl oer dy hunllef gariad..
Ai beirddion oeddynt ganent gerdd dy fri
Mewn llawer gwlad a hin, mewn llawer oes?
Ai meidrol oeddynt ganent mai tydi
A leddfodd wallgof hiraeth eu dwfn loes?
Mi gerais unwaith gân dy adar llon;
Ond prudd, gwynfannus nodau
Sy'n ywen hen feddrodau
Ddechreuant lasu dan fy mron.
O wanwyn na roi byth i'r eiddew gwyrdd
Ei gyn-ieuenctid ar hên furiau'r castell,
Paham y rhoi i'r hên atgofion fyrdd,
Gysgodant trosof, ddail eu marw fantell?
Boed hydref bythol tros fy mywyd i,
Lle gwisga'r coed eu holaf wridog len,
Lle gyr pob afon ddofn anghofus li,
Lle na bo cerdd un fronfraith uwch fy mhen,
Lle'r distaw ddioddef, heb un fydol gân
Ond cerddi'r helyg meinion
Pan gyffwrdd yr awelon
Hyawdledd byw eu tannau mân;
Boed yno deml ddistaw dan y gwŷdd,
Lledrithiol allor heb un fflam yn oleu,
A mi'n offeiriad sanct fy nghrefydd gudd
Heb wynfyd gwybod ac heb bennyd ameu.