Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Cerddi Cymru
Gwedd
| ← Cynnwys | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Eneth wen fel meillion dôl → |
I.
CERDDI CYMRU.
Pur fel awel ei mynyddoedd,
Tlws fel blodau ei dyffrynnoedd,
Tyner fel ei merched mingu,
Ydyw cerddi mwynion Cymru.
Trwy bob brad a gormes gelyn
Mynnodd Gwalia gadw'r delyn;
Ac yn nwndwr treigliad oesau
Byw o hyd mae'r hên ganiadau.
Ynddynt teimla'r cywir Gymro.
Galon Cymry fu yn curo;
Gwên a gwae ein dewrion dadau
Gedwir yn yr hên ganiadau.
Pan dywalltwyd gwaed ein tadau
Yn afonydd ar y bryniau,
Methodd wermod brad y gelyn
Chwerwi melus gainc y delyn.
Trwy bob cainc rhed byw ysbrydiaeth
Serch at wlad ein genedigaeth;
Puro a chysuro'r galon
Wna mêl seiniau'r hên alawon.
Oera gwres yr haul ysblennydd,
Neidia'r Wyddfa i fôr Iwerydd,
Cyn y peidia 'nghalon garu
Hên alawon mwynion Cymru.