Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Circê
| ← Arthur yn cyfodi | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Cyfrinach y beirdd → |
LII.
CIRCE.
Mae'n rhywle, rhywle ynys unig
Yng nghanol gwinddu donnau'r aig,
A'r llongau gwynion gyrchant beunydd
Fel adar mudion tua'r graig;
Y dduwies wen sy'n canu yno
A'r delyn felus gwyna'n wan
Rhwng gerddi gwyrdd y palmwydd iraidd
Sy'n siglo'n gysglyd ar y lan.
Y morwr prudd o'i wlad bellennig,
A swynir gan y felus gerdd;
O flaen yr awel leddf fe leda
Ei hwyliau tua'r ynys werdd;
Fe gura'r tonnau groesaw iddo
Pan nofia'n nwyfus yn eu côl;
Ond byth ni churant iddo ffarwel
I'w gludo eilchwyl yn ei ôl.
Y fun a'i carodd yn y dwyrain
A wylia'n athrist ar y lan,
Ond ni rydd duwiau'r nef wrandawiad
I gwynfan brudd ei gweddi wan;
Daw'r flwyddyn a'i thymhorawl gylchdro,
A'r lloer fydd newydd lawer tro,
Ond ef, dros lwybrau llaith y cefnfor,
Ni ddychwel mwyach tua'i fro.
Mi grwydrais innau tros y dyfnfor
Heb ddweyd ffarwel a'm meinir wen,
A'r tonnau glas yn taflu cusan
I'r glesni dyfnach oedd uwchben;
O'r ynys bell y crwydrai'r alaw
Yn felus hudol tros y lli,
A hwyliais innau yn fy hunllef
Yn adsain ei mhelyslais hi.
Mae'r gân yn oernad yn fy nghlustiau,
A chwerw'r gwaddod gwedi'r gwin,
A minnau'r ynfyd fynnais yfed
O gusan ei gwenwynol fin,
Mae'r llong yn pydru dan y creigiau,
A'r genlli'n rhuo byth heb ball,
Mae'r dduwies yn oer wenu arnaf,
Ac "Aros, aros," llefa'r fall.