Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Cloch y bugail

← Merch y winllan Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Menna glan y lli →

VIII.
CLOCH Y BUGAIL.

Yn y gwanwyn, O Myfanwy,
Rhodiet gyda mi;
Glas oedd lliw y clychau, feinwen,
Fel dy lygaid di.

Mwyn oedd sibrwd, O Myfanwy,
Hoff gyfrinion serch,

Melus oedd cyffyrddiad tyner
Dy wefusau, ferch.

Rhoddaist imi gloch y bugail
Brydferth fel dy hun,
Dyfai'n wylaidd wrth dy gartref,
Wyt ti'n cofio, fun?

Ffarwel roddaist im, Myfanwy,
Ffarwel oer ddiserch.
Cedwais innau gloch y bugail
I dy gofio, ferch.

Ddoe, wrth chwilio 'mhlith fy llyfrau
Am dy lythyr di,
Gwelais flodyn bach gwywedig
Yn fy Meibil i.

Cloch y bugail wedi gwywo'n
Ddistaw wrtho'i hun:
Gwywo wnaeth dy gariad dithau,
Fel dy flodyn, fun.


Nodiadau

[golygu]