Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Cyfrinach y beirdd
| ← Circê | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Tro yn Eryri → |
LIII.
CYFRINACH Y BEIRDD.
"Most wretched men
Are cradled into poetry by wrong,
They learn in suffering what they teach in song."
Shelley.
Pwy fyth, a glybu lais yr eos fwyn
Ogleisia'r nos â'i chyfareddol swyn,
Feddyliai, wrth ei chlywed yn telori,
Fod calon y gantores wedi torri?
Ar hyd ei gyfrin lwybrau ar y llyn
Heb si na swn mordwya'r alarch gwyn;
Ond gynted gwel ei fedd o dan y tonnau
Fe swyna'r byd â'i felus ddieithr seiniau.
Fe guddiwyd telyn yn y cwmwl du,
Adfeilion telyn ydyw'r enfys gu,
Y dymestl rodd ei bysedd ar ei thannau,
A llef y daran dorrodd ei llinynnau.
Fe ŵyr arlunydd y gyfrinach hon
Pan liwia'i ddarlun gyda gwaed ei fron;
Er mwyn i bryd duwiesau'r darlun wrido
Mae'n rhaid i rudd y prudd arlunydd lwydo.
A'r prydydd cywir fel yr eos mae,
Ei gân felusaf draetha'i ddyfnaf wae,
Medd yntau'r meddwl ysa waed y galon,
A'r teimlad rewa'r dagrau yn eu ffynnon.
Dioddef yw cyfrinach beirdd pob oes,
A ffordd y goron ydyw ffordd y groes;
Mae'r seiniau mêl yn gwisgo'r euraidd dannau,
A thân y gerdd yn llosgi'r pêr delynnau.