Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Dagrau'r nos

← Y gerdd ddienw Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Llyn Geirionnydd →

XIV.
DAGRAU'R NOS.

Caeodd amrant gwridog rosyn
Dan y nos gysgodion prudd,
Pan ddaeth gwawr agorodd wedyn
Gyda deigryn ar ei rudd.

Haul belydryn a ddisgynnodd
I gusanu grudd y rhos,
Gwridodd yntau ac anghofiodd
Ddu anobaith dagrau'r nos.

Oer a phrudd yw oriau gwyllnos
Bywyd dan gysgodion bedd;
Pan ddaw gwawr a edy'r hirnos
Ddagrau ar fy newydd wedd?

Wna goleuni'r nef belydrau
Lwyr ddileu pob caddug trist?
Hyn fydd ystyr sychu'r dagrau
Ddydd datguddiad Iesu Grist?


Nodiadau

[golygu]