Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Ddaw Olwen byth yn ol
| ← Olwen | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Y bedd dan fy mron → |
XXI.
DDAW OLWEN BYTH YN OL.
Mae 'nhelyn ar yr helyg,
Mae 'nghalon bron yn ddwy,
Fy ysbryd sydd yn gwywo
Dan ofid fwy na mwy;
Y byd wrth weld fy nagrau
Ddwêd mod i'n wan a ffôl,
Heb weld yr archoll creulon
Wnaeth angau yn fy nghalon,—
Ddaw Olwen byth yn ôl.
Y gwanwyn ysbrydola
Gân adar ym mhob man;
Y gwanwyn a siriola
Hên ywen ddu y Llan;
Gwisg gwanwyn a gwyrddlesni
Hên dderw mud y ddôl;
Ond metha'r gwanwyn lonni
Y galon wedi torri,—
Ddaw Olwen byth yn ôl.
Mae'r nos a'i thywyll lenni
Yn gwneud y blodau'n brudd,
Mae gwrid y rhos yn gwelwi,
Cwyd deigryn ar ei rudd;
Ond cyfyd haul, a'r dagrau
A sugna fry i'w gôl,
Ond nis gall haul belydrau
Byth sychu'm heilltion ddagrau,—
Ddaw Olwen byth yn ôl.
Yr awen genfydd Eden
Tuhwnt i niwl y glyn,
Lle nad oes un helygen
Yn lledu ei chysgod syn;
Heb brudd—der bedd nac ywen
Blodeuo byth wna'r ardd;
Caf yno gwrdd ag Olwen,
A byw'n dragwyddol lawen,
Yn ieuanc ac yn hardd.