Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Ddoe a heddyw
Gwedd
| ← Goleu'r dyddiau fu | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Y lili yn llatai → |
IV.
DDOE A HEDDYW.
Gyda Men yng ngwlad barddoniaeth
Noson leuad oleu dlos;
Rhodio'n wylaidd ym mharadwys
Serch y nos.
Adrodd hanes cariad cyntaf,-
Siom, ochenaid, cario'r groes;
Edrych draw trwy lân addewid
Cariad oes.
Gyda Men yn gweld breuddwydion
Am ddyfodol glas ei nen;
Llunio coron anfarwoldeb
Am ei phen.
Ffarwel frwd rhwng Men a minnau,
Dyblu'r gusan dro a thro,
Gorfod mynd—yr awr yn hedeg
Ar ei ffo.
Deffro'r bore, cofio neithiwr,
Gweld y nen yn dywell erch;
Clywed taran ffawd yn rhuo
Toriad serch.
Torri'r breuddwyd a'r addewid,
Gwywo'r goron am ei phen,
Minnau yn yr heddyw caled
Heb un Fen.