Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Deilen hydref

← Menna glan y lli Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Y blodeu'n llateion →

X.
DEILEN HYDREF.

Crwydro wnes hyd lan Tryweryn,
Yn yr hydref llwm,
Heb gydymaith ond yr awel
Gwynai yn y cwm.

Gwelwn bren a'i ddail yn gochion,
Gwrid ar rudd pob un;
Tynnais un, er mwyn ei thlysni,
'N anrheg i fy mun.

Wrth edmygu ei phrydferthwch
Teimlais ias o fraw,-
Angau roisai wrid i'r ddeilen
Ddaliwn yn fy llaw.

Anadl oer a llym yr hydref,
Cusan angau yw,
Dawnsia'r awel trwy'r canghennau,
Gedy'r dail yn wyw.


Gwerdd fu hon fel ei chyfoedion
Yn y gwanwyn llon;
Ymbriodi gydag angau
Ddaeth a gwrid i hon.

Gwael a dirmygedig ydyw
Bywyd llawer un,
Ond rhydd angau anfarwoldeb
Ar ei olaf hun.

P'run yw'r tlysaf,- priod liwiau
Bywyd ar ei sedd,
Ynte'r arlliw wrid brydfertha
Welwder y bedd?


Nodiadau

[golygu]