Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Diwedd y daith

Oddi ar Wicidestun
Y ddwy lili Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Cedwch allan y wawr

LXVII.
DIWEDD Y DAITH.

Bu glesni byw dy ieuanc ddydd
Yn dawnsio dan dy aeliau,
A rhosliw oedd dy dyner rudd
Fel gwawrddydd ddigymylau;
Ti droediaist ar y gweunydd hyn
Yn eneth deg osgeiddig,
Ac ail i'th wallt, ym mherthi'r glyn,
Oedd tresi'r banadl eurfrig.

Nac wyla golli'th ieuanc hoen
Ar lwybyr y blynyddoedd;
Dihangodd nwyd, tawelwyd poen,
A'th ienctyd, gwagedd ydoedd.
Cei atgo'r gwanwyn heb ei bang,
Cei haf heb wyllt freuddwydion,
A'r hydref ni ad ôl ei sang
Ym mrig dy goedydd crinion.

Cadd natur oreu'r dyddiau gynt,
Dy lais, dy liw, dy gariad;
Dy lais sydd eto'n sŵn y gwynt
Yn murmur dy ddyhead;

Glas liw dy lygaid sydd o hyd
Yn gwenu ar fron y nefoedd;
Nac wyla golli'th dlysni drud
Ar lwybyr y blynyddoedd.

Os llais y byd dy foli fyn
Yn nhlysni dy ieuenctid,
Mil gwell yw'r dyddiau distaw syn
Ar hwyrol lan y gweryd;
Cei wedyn gwmni Natur wen
Dan wenau'r bythol Heddyw,
Pan rwygo Duw y dywell len
Wahana'r Oedd a'r Ydyw.


Nodiadau

[golygu]