Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Endymion
| ← Breuddwyd | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Yr hên, hên hanes → |
XXVIII.
ENDYMION.
[Hen hanes y Groegiaid am Endymion oedd ei fod yn caru Diana, duwies y lleuad; ond morwyn oedd Diana i fod bob amser, a rhaid oedd i'r neb a'i carai ei charu o bell. Apollo, brawd Diana, yw'r 'eurwallt brydydd,' a gwr boenydiwyd yn uffern am garu Juno, gwraig Iau, oedd Ixion].
Mae'r awel yn y goedwig
Yn caru dail y coed,
Mae'r lili ger yr afon
Yn caru ei brawd erioed;
Erioed ni bu yr awel
Yn ceisio cariad gwell:
Paham y rhodd y duwiau
I minnau garu 'mhell?
Mae'r bugail gyda'i ddefaid
Yn canu cerdd ei serch,
Mae'n canu am fod ateb
Yng nghalon bur y ferch;
Os ydyw Amaryllis
I fugail gwael yn well,
Mae'n rhaid i mi roi'm heinioes
I boeni am gariad pell.
Mi glywais am a garodd
Brydferthwch Gwener gu,
Paham na allwn innau
Fel pawb, ei charu hi?
Dros ymyl y mynyddoedd
Y cyfyd pryd y lloer,
Ymhell, bell yn y glesni,
Fy nuwies euraidd oer.
Dros fin y cymyl arian
Fe wena Dian lân,
Ond O, wrth wedd ei hwyneb
Distawa nodau 'nghân.
Mae trwst y storm ddisgynna,
I guddio'r glesni, 'n well;
O na foddlonwn eto
I beidio caru 'mhell?
Dychmygais weld fy hunan
Mewn cwsg yn Nelos werdd,
Lle cana 'r eurwallt brydydd
Bob nos ei nefol gerdd;
Daeth hithau yno hefyd
A gwenodd arnaf fi,
Ces innau gyffwrdd ymyl
Ei gwisg sidanaidd hi.
Mae cosb am garu duwies,
Mae merched dyn yn rhydd,
A gwn caf finnau ddioddef
Erch boen Ixion brudd;
Ond cafodd ef ei nefoedd
Yng nghusan Juno gu,
Dioddefwn innau, Dian,
Pe cawn dy gusan di.
Mi wn ym mhoenau 'nghariad
Mai neges imi roed,—
Y gwr a garodd Ddian,
Offeiriad fu erioed.
Mi godaf deml farmor
Ym mhurdeb gwenau'r lloer,
Lle caiff y mab ddihangfa
Fu'n gorfod caru'n oer.
Hawdd iawn yw caru'r feinwen
A gwrddaist yn y coed;
Hawdd iawn yw ennill honno
Mae'n fwyn a thlos erioed;
Ond rhyfedd fydd dy fywyd
Os gelli garu'n well;
Offeiriaid Dian burwen
Sy'n gallu caru 'mhell.