Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Ffarwel

← Molawd merch Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Blwyddyn serch →

XXXV.
FFARWEL.

Deigryn olaf ar ei bedd
Cyn ymadael;
Atgof unwaith am y wedd
Is y feinael;
Ar y bedd mae'r pridd yn llaith
Gan fy nagrau;
Deigryn olaf, yna taith
Dros y tonnau.


Gadael cartref cynta'm hedd
Glwyfa 'nwyfron,
Gadael cariad yn y bedd
Dorra 'nghalon.
Tyfwch, flodau, 'n wyllt a gwyn
Ar ei beddrod,
Lili gain a gwyllt y bryn,
Lliw y manod.

Deigryn olaf ar y pridd
Unwaith heno;
Sychu'r dagrau ar fy ngrudd
A ffarwelio.
Angof wedyn, cartre pell,
Rhodfa newydd:
Dyna ddigon, milwaith gwell
Bywyd llonydd.


Nodiadau

[golygu]