Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Ffarwel Catullus i Lesbia
| ← Tro yn Eryri | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Telyn Heine → |
TELYN YR ESTRON.
I.
FFARWEL CATULLUS I LESBIA.
(CATULLUS).
Drist Gatullus, na fydd mwyach
Ddifyr yn dy chwarae ffôl;
Cred na ddaw yr hyn a gollaist
I dy fywyd byth yn ôl.
Gwyn y gwenai heulwen unwaith
Ar dy fywyd hapus di,
Pan ddilynet droed dy riain
I bob man yr elai hi.
Gwell y ceraist ti dy riain
Nag erioed y carwyd merch;
Dyddiau mwynion hên helyntion
Gefaist ym mharadwys serch;
Dyddiau geraist ti, Gatullus,
Dyddiau hefyd garodd hi;
O, fe wenodd heulwen unwaith
Ar dy fywyd hapus di.
Nid yw hi yn caru mwyach,
Tithau, fardd, na châr yn hwy;
Na ddilyna'r fun ddihanga,
Paid a chwyno dan dy glwy.
Ffarwel, gariad, oer yw'm dwyfron,
Ni ofynaf am dy serch,
Os yw'th fardd yn gas i'th galon,
Ni'th ddymuna, fwynaf ferch.
Pan ddaw neb i lanw'r orsedd
Yn dy fron adewais i,
Pan fo pob mab wedi'th adael,
Oer dy galon, gwae i ti!
Pwy fydd serchog atat mwyach?
Pwy'th feddylia di yn hardd?
Pwy a'th gara eto, feinwen?
Pwy ddywedi fydd dy fardd?
Pwy rydd gusan ar dy ruddiau?
Pwy ymwasga a thi mwy?
Oer adewir di dy hunan,—
Tithau fardd, na châr yn hwy.