Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Ffarwel i gyfaill
| ← Yr hên, hên hanes | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Y seren yn y nos → |
XXX.
FFARWEL I GYFAILL.
Gwel hi! Mae goleu yn ei hwyneb,
Pwy yw? Beth yw? Ym mhle y bu?
Mae siffwrdd yn ei gwisg o sidan;
Pwy mae hi'n geisio, ti ai fi?
Ai ofni'r ydwyt yn dy galon?
Tybed y gelli fod mor wan?
Bu ofn yn llenwi 'nghalon innau,
Ond, gwyddost ti, ces i fy rhan.
Mor esmwyth yw ei gwallt sidanaidd,
Mor anwyl yw ei gruddiau hi;
Na, paid a'i chyffwrdd er dy einioes
Os ydwyt gyfaill pur i mi.
Mae tinc ei llais yn rhyfedd felus,
Fel cloch y graig ymhell o'r lli,
Yn galw, galw am ryw enaid.
Ond pwy ryfyga? A wnei di?
Mae'n dod. O gwel ei gwylltion lygaid,
Llachar oleuni swynion hud;
Gwell fuasai i angeu diboen plentyn
Fferru dy waed tufewn i'th gryd.
Mae'r nefoedd yn ei gwedd, ond aros;
A fynni fynd?-ffarwel am byth;
Caf finnau wynfyd yr unigedd,
O wynfyd cariad, gwynfyd rhith.
Ffarwel fy nghyfaill. Ffordd dy ddewis
Raid iti droedio hyd dy fedd.
Fe'th gynorthwya? Na, 'rwy'n ameu,
Ond mae y nefoedd yn ei gwedd.
'Rwyf fi heb ddysgu prun yw'r goreu,
Cusan ddidostur haul y dydd,
Ai rhodfa'r ynfyd yn y ddunos;
Felly nac aros, 'rwyf fi'n rhydd.