Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Fy nghariad

← Y seren yn y nos Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Molawd merch →

XXXII.
FY NGHARIAD.

Ymhlith teleidion Gwalia fad
Fy nghariad yw'r brydferthaf un,
A diniweidrwydd Eden wen
Gorona ben f'anwylaf fun.
'Dyw seiniau'r gornant ar ei hynt,
Ac odlau cân y goedwig lon
Wrth gynghaneddu hefo'r gwynt
Ond adlais swyn melyslais hon.

Ei llygaid byw fel sêr y gwyll
Sirioldeb Ebrill ynddynt chwardd,
A blodau Mai a'u gwrid y sydd
Yn fyw ar rudd y feinir hardd.
Ei mheinwar ffurf gynhyrfa gân,
Yn awyr rhinwedd byw mae hon,
Ei phurdeb gŵyl, a'i chalon lân,
Rydd ysbrydoliaeth i fy mron.


Nodiadau

[golygu]