Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Goleu'r dyddiau fu
Gwedd
| ← Eneth wen fel meillion dôl | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Ddoe a heddyw → |
III.
GOLEU'R DYDDIAU FU.
Fu y tonnau'n canu gobaith
Ar y Fenai fin y nos?
Welaist ti obeithion newydd
Yn y newydd wenlloer dlos?
Oedd y gwyll yn methu cuddio'r
Goleu yn y blwyddi pell,
Pan y mynnai serch ddymuno
Toriad gwawrddydd dyddiau gwell?
Gwelais innau'r nos yn disgyn
Dros ganllawiau aur y nef;
Gwelais wynder yn ei gwisgoedd,
Clywais ganu yn ei llef;
Gwelais ddyddiau gwyn yng nghusan
Lleuad Arfon ar y lli,
Gwelais yno gysgod gwannaidd
Cusan cariad Men i mi.
Gwenodd llawer lleuad newydd
Ar y Fenai yn ei thro;
Curodd llawer gwendon lwythog
Gerddi'r dyfnder ar y gro;
Dywed imi, Fen anwylaf,
Ydyw'r goleu fyth yr un,
A'r dyfodol pell yn gwenu
Llwydd i gariad mab a mun?