Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Goleu gobaith

Oddi ar Wicidestun
Yr eiddew yn llatai Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Arthur yn cyfodi

L.
GOLEU GOBAITH.

Fel gwyliwr unig uwch y tonnog li
Pan gwyd y lleuad newydd uwch ei ben,
Ac yntau, dan ysblander goleu'r nen,
Anghofia frath ei boen a'i chwerw gri,
Felly, pan syllaf i dy lygaid di,
Yn oriau hapus serch gyfrinion, Men,
Daw cysgod tragwyddoldeb ar y llen
A chilia'r ddaear o fy mywyd i.
Pan ballo heulwen oleu'r dyddiau gynt
A ninnau'n farw mewn breuddwydiol hun,
Ar fron pell nefoedd ein daearol hynt
Disgleiria hwyrol obaith meibion dyn,
Lloer lân prydferthwch, lleufer gwyn y gwir
Er duo'r nen ac oedi o'r wawr yn hir.


Nodiadau

[golygu]