Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Gorffwys don

← Men Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Olwen →

XIX.
GORFFWYS DON.

Gorffwys, don, yn dawel, dawel,
Paid a digio wrth yr awel
Sy'n cusanu ewyn gwyn dy frig;
Huna'r waen a huna'r mynydd,
Pam y byddi di'n aflonydd?
Pam y curi'r lan mor ddig?


Haul y nef sydd wedi cilio,
Ac anfonodd wrth noswylio
Wên tangnefedd dros flinedig fyd;
Ei belydr olaf dros yr eigion
Oedd lwybr aur i wlad breuddwydion,―
Cyfrin fro breuddwydion hud.

Pan mae anian oll yn cysgu
Pam y mynni di derfysgu
Ac ewynnu'n greulon yn y gro?
Ust, distawa'th dôn anynnad,
Rhag cynhyrfu hun fy nghariad,—
Hun y decaf yn y fro.

Pâr i Olwen landeg huno'n
Suol siffrwd dy furmuron,—
Dwsmel seiniau pêr y tonnog gôr;
Dyro 'nghymlith a'i breuddwydion
Serch ganiadau'r môr forwynion,—
Swynol fiwsig dwfn y môr.

Boed i'w chalon bur atgofio
Dyddiau dedwydd aethant heibio
Pan y crwydrem gyda glannau'r llyn,
Pan eisteddem yn y cyfnos
I edmygu cainc yr eos,
Dan y dail ar ael y bryn.


Sibrwd, don, mor ddwfn a chynnes
Yw anfarwol serch fy mynwes,
Serch fy nghalon at fy lili dlos;
Paid a phoeni'r lân forwynig
Gyda chŵyn y gwyliwr unig
Grwydra'r forlan yn y nos.

Tyner gwsg gusana'i hamrant,
Gwenau ar ei mhin chwareuant,
Pur dangnefedd yn ei mhynwes drig.
Gorffwys, don, yn dawel, dawel,
Paid a digio wrth yr awel
Ddawnsia'n ysgafn ar dy frig.


Nodiadau

[golygu]