Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Haf a gaeaf
Gwedd
| ← Molawd merch | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Ffarwel → |
XXXIV.
HAF A GAEAF.
Clywed enw Llyn Geirionnydd
I fy nghalon hiraeth ddug
Am oedfaon rhodfa'r mynydd,
A pharadwys blodau'r grug.
Mynnodd awel oer aeafol
Ymlid haf oddiar ei sedd,
A ddaw arall chwa hydrefol
I roi cariad yn ei fedd?
Cerddi gobaith ganodd glasliw
Don Geirionnydd yn yr haf;
Ond mudandod prudd, ac eiliw
Amdo'r eira heddyw gaf.
Ddychwel gwanwyn eto i ddeffro
Cân y tonnau megis cynt?
Welir blodau'r grug yn gwrido
Wrth ymgellwair hefo'r gwynt?
A oes clysach gwawr i dorri
Draw tuhwnt i'r noson ddu?
Oes gobeithion all ragori
Ar freuddwydion am a fu?
Cerais di, anfarwol awen,
Dywed beth sydd ar fy rhan,-
Ai paradwys cariad Olwen,
Ynte cysgod Yw y Llan?